Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwahanol ffyrdd o weithio » Hunangyflogaeth
- Ydych chi am ddilyn eich llwybr eich hun?
- Oes gennych chi syniad da am fusnes eich hun?
- Gall fod yn foddhaus iawn bod yn bennaeth arnoch chi'ch hun.
OND... COFIWCH
- Mae'n rhaid ichi fod yn llwyr ymroddedig ac yn benderfynol o lwyddo.
- Mae angen ichi wneud llawer o waith ymchwil a chynllunio cyn mynd amdani.
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn bennaeth arnoch chi'ch hun? Ydych chi'n rhywun mentrus?
- Mae bod yn fentrus yn golygu'ch bod chi'n meddu ar yr agweddau a'r sgiliau a fydd yn eich helpu chi os ydych chi am sefydlu'ch busnes eich hun yn y dyfodol.
- Gall bod yn fentrus hefyd eich helpu chi i gael swydd, ennill dyrchafiad neu gyfrannu at dwf busnes eich cyflogwr.
- Ydych chi?
- Yn ddyfalbarhaus
- Yn frwdfrydig
- Yn hyblyg
- Yn gystadleuol eich ysbryd
- Yn gallu bod yn greadigol ac yn arloesol
- Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun
- Yn benderfynol ac yn llawn egni
- Yn bositif eich agwedd
- Yn ymwybodol o gyfleoedd
- Yn meddu ar agwedd "galla' i wneud hynna"
Gwthio'r cwch i'r dŵr
- Cael syniad yw'r rhan hawdd! Mae gennych chi lawer o waith o'ch blaen cyn ichi fynd amdani!
- Bydd angen ichi lunio cynllun busnes sy'n rhoi union fanylion ynghylch costau, marchnadoedd a sut rydych chi'n bwriadu rhedeg eich busnes.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymchwilio i'r farchnad ac yn siarad â'r arbenigwyr ynghylch llunio cynllun busnes.
- Gallwch chi siarad ag un o'r sefydliadau isod. Maen nhw'n cynnig help a chefnogaeth i bobl ifanc sy'n dymuno dechrau eu busnes eu hunain, gan gynnwys ffynonellau ariannu fel grantiau a benthyciadau.
- Gall eich banc lleol hefyd gynnig cyngor rhad ac am ddim ichi.




