Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau
Mae llawer o resymau pam fod pobl yn defnyddio sylweddau. Mae rhai yn arbrofi tra bo eraill yn eu defnyddio fel ffordd o ymdopi ag anawsterau. Ond, mae’r sylweddau eu hunain yn aml yn datblygu i fod yn anhawster lle gallai’r broblem wreiddiol fod wedi ei datrys neu fynd yn haws gydag amser.
Gall sylweddau cyfreithiol fel alcohol neu dybaco, neu rai anghyfreithlon fel canabis, ecstasi neu gocên effeithio’n ddifrifol ar eich bywyd, gan achosi difrod tymor hir neu hyd yn oed farwolaeth. Pan fo hyn yn mynd allan o reolaeth, mae’r sylwedd fel arfer yn dechrau rheoli’r defnyddiwr. Po fwyaf o sylwedd arbennig y mae’r unigolyn yn ei ddefnyddio, po fwyaf o oddefgarwch y maent yn ei ddatblygu, fel bod angen iddynt gael mwy i gael yr un effaith. Ar wahân i’r gost, gellir effeithio ar bob maes o fywyd unigolyn, o iechyd hyd at berthnasoedd, ysgol neu waith.
Gall rhai sylweddau anghyfreithlon gael effaith ddifrifol ar eich iechyd meddwl. Gall rhai fod yn gaethiwus yn ffisegol, tra bo eraill yn achosi caethiwed seicolegol gyda’r defnyddiwr yn meddwl bod angen iddo ddefnyddio’r sylwedd i deimlo’n iawn. Weithiau dyma pam efallai nad yw pobl yn dymuno rhoi’r gorau i ddefnyddio’r sylweddau neu yn ei chael yn llawer mwy caled i stopio nag yr oeddent wedi dychmygu.
Bydd y tudalennau canlynol a’r safleoedd cysylltiedig yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am ystod o sylweddau, yn rhoi manylion am eu heffeithiau a ph’run ai ydynt yn gyfreithiol neu yn anghyfreithlon. Defnyddiwch yr wybodaeth i ddarganfod cymaint â phosibl i wneud eich penderfyniadau eich hun a pheidiwch fyth â theimlo bod yn rhaid i chi wneud rhywbeth er mwyn bod yr un fath â phawb arall.
Sefydliadau
-
Barnardo’s Cymru Substance Use/Misuse Service / Gwasanaeth Defnyddio/Camddefnyddio Sylweddau
Conwy & Denbighshire Children & Young People’s Substance Use and Misuse Service / Gwasanaeth Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau i Blant a Phobl Ifanc Conwy a Sir Ddinbych
-
Wales Drug and Alcohol Helpline
Dan - the all Wales drug and alcohol helpline Tel . 0800 6335588
-
the site
-
MEIC
Information, advice and support for your life. Free. Confidential. For you / Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i dy fywyd. Am ddim. Cyfrinachol. I ti.
-
www.teenagehealthfreak.com
suitable for 14 to 16 year olds, go to the section on drugs and alcohol to get information and advice.
-
www.talktofrank.com
with information on: Drugs: a full and detailed A to Z listing Where to get help: free phone helpline 0800 776600 open 24 hours Email help address frank@talktofrank.com For the hearing impaired there is a text number 0800 917 8765 Local help Free information leaflets
-
Need To Know
provides information for 14 to 16 year olds, go to the section on drugs to get information and advice. There is also information specifically for your parents and teachers.
-
release
suitable for 16 to 25 year olds it has information and advice with a telephone help line 0845 450 0215 (open 11am-1pm and 2pm-4pm, Monday-Friday).
-
wired in
offers practical advice for substance misusers and their families.
-
BBC The Surgery




