Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » GHB

  • Hylif yw GHB nad oes iddo unrhyw arogl, ac fel arfer mae ar ffurf pils neu boteli bychain gyda blas ychydig yn hallt arno. Mae ecstasi hylifol yn enw arall arno, a dyma’r cyffur sy’n gysylltiedig â thrais ar ddêt gan ei fod bron iawn yn ddi-flas ac mae modd ei roi i mewn i ddiod rhywun heb iddyn nhw wybod. Mae'r cyffur wedi'i liwio'n las erbyn hyn fel bod modd ei weld.
  • Yr effaith ar y defnyddiwr yw gwneud iddyn nhw deimlo'n benrhydd neu'n ddiymatal, yn hapus ac yn gnawdol. Wrth i’r defnyddwyr gymryd mwy fe ddaw i deimlo’n isel ac yn gysglyd. Gall gorddos wneud i’r defnyddiwr deimlo’n chwydlyd ac yn ddryslyd, a gall hyd yn oed achosi ffit.
  • Mae GHB yn gaethiwus i’r corff a’r meddwl.
  • Ymhlith y risgiau mae:
    • Oherwydd effeithiau GHB gellir ei ddefnyddio mewn trais rhywiol â chymorth cyffuriau
    • Gall GHB fod yn angheuol pan fydd wedi’i gymysgu â chyffuriau eraill neu alcohol
    • Gan ei bod yn anodd gwybod cryfder y dos gall wneud i ddefnyddwyr ddod yn anymwybodol
  • Mae GHB yn gyffur Dosbarth C, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon meddu arno a’i gyflenwi i eraill
  • Gall meddu ar GHB olygu bwrw dedfryd yn y carchar am 2 flynedd, ac yn achos troseddau difrifol hyd at 14 mlynedd yn y carchar a faint fynnan nhw o ddirwy

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.