Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Heroin

  • Powdwr gwyn yw heroin pan mae’n bur, ond gall yr heroin sy'n cael ei werthu ar y stryd fod yn unrhyw beth o wyn brownaidd i frown. Bydd yn cael ei smygu neu ei chwistrellu. Gall fod yn ddrud a gall gostio hyd at £100 y dydd i fwydo dibyniaeth arno.
  • Enwau eraill ar heroin yw brown, scag, H a smac.
  • Effaith heroin yw arafu swyddogaethau’r corff ac mae’n atal poen corfforol a seicolegol. Mae’n rhoi gwefr i’r defnyddiwr ar ôl ei gymryd a gall dos bach achosi teimlad o gynhesrwydd a chysur. Gall dosys mwy o heroin wneud y defnyddiwr yn gysglyd ac yn gwbl ddigyffro. Pan fydd rhywun yn cymryd y dos cyntaf o heroin fe all achosi iddyn nhw fod yn benysgafn a chwydu.
  • Pan ddefnyddir heroin dros gyfnod hir daw yn gaethiwus iawn gan gael llai o effaith.
  • Ymhlith y risgiau mae:
    • Marwolaeth o orddos
    • Gall gorddosys achosi coma a marwolaeth oherwydd methu ag anadlu
    • Pan fydd heroin yn cael ei gymryd gyda chyffuriau eraill neu alcohol mae’n haws cymryd gorddos
    • Mae yna risg o farw o fewnanadlu cyfog gan fod heroin yn atal system pesychu'r corff rhag gweithio
    • Mae defnyddwyr heroin yn peryglu eu hunain drwy ei chwistrellu i’w gwythiennau gan y gall hyn arwain at fadredd. Mae yna hefyd risg o HIV/Aids, hepatitis B neu C pan fydd defnyddwyr yn rhannu nodwyddau
    • Mae heroin yn gyffur dosbarth A felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei rannu am ddim neu ei werthu
      Gall meddu ar heroin olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at saith mlynedd, a gall ei gyflenwi olygu dedfryd oes a faint fynnan nhw o ddirwy

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.