Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » LSD

  • Cyffur rhithbeiriol yw LSD ac er y gall ddod ar ffurf pelennau bychain neu hylif, fel arfer bydd yn cael ei werthu ar ffurf sgwariau bychain o bapur. Mae yna nifer o enwau eraill arno gan gynnwys asid, cheer a trips.
  • ‘Trip’ yw’r enw ar yr effaith o gymryd LSD, a gall y trip fod yn dda neu’n ddrwg. Gall gymryd hyd at awr i’r trip ddechrau a gall bara am 12 awr.
  • Nid yw LSD yn gaethiwus.
  • Ymhlith y risgiau mae:
    • Gall trip gyflymu neu arafu amser a symudiadau’r corff
    • Er y gall trips wneud i bobl deimlo’n hapus gallan nhw achosi panig a bod yn ddryslyd ac yn frawychus
    • Os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl fe all LSD eu gwaethygu
    • Os byddwch chi’n cymryd LSD pan rydych chi mewn hwyliau drwg, fe all achosi ichi wneud niwed i chi’ch hun
  • Mae LSD yn gyffur dosbarth A felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei rannu am ddim neu ei werthu
  • Gall meddu ar LSD olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at saith mlynedd, a gall ei gyflenwi olygu dedfryd oes a faint fynnan nhw o ddirwy

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.