Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Madarch Hud
- Madarch sy’n tyfu’n wyllt yw madarch hud, ond mae yna ddau fath penodol sy’n cael effeithiau rhithbeiriol pan fyddwch chi’n eu bwyta, fel effaith cymryd LSD. Mae un math o’r enw madarch Psilosybin yn fach, o liw brown a fydd yn troi yn las o’r cleisio wrth gyffwrdd â nhw. Amanita’r Pryfed (Amanita Muscaria) yw’r enw ar y math arall, ac mae’r rhain yn goch gyda smotiau gwyn.
- Effaith cymryd madarch hud yw cael trip a all fod yn dda neu'n ddrwg. Ar ôl bwyta’r madarch fe all gymryd hyd at ddwy awr i’r trip ddechrau a gall y trip bara hyd at 10 awr.
- Gan fod yna gannoedd o wahanol fathau o fadarch a chaws llyffant yn tyfu yn wyllt, un o’r prif beryglon yw y gallech chi gasglu madarch gwenwynig a all, os byddwch chi’n eu bwyta, eich gwneud yn sâl iawn ac a all, mewn rhai achosion, fod yn angheuol.
- Nid yw Madarch Hud yn gaethiwus.
- Ymhlith y risgiau mae:
- Gall trip gyflymu neu arafu amser a symudiadau’r corff
- Er y gall trips wneud i bobl deimlo’n hapus gallan nhw achosi panig a bod yn ddryslyd ac yn frawychus
- Os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl fe all madarch hud eu gwaethygu
- Os byddwch chi’n cymryd madarch hud pan rydych chi mewn hwyliau drwg fe all effeithio ar brofiadau'r trip (mae'n bosib cael trip drwg). Os ydych chi’n mynd i gymryd madarch hud gwnewch yn siwr eich bod chi mewn lle diogel gyda phobl rydych chi'n gyfarwydd â nhw ac, yn yr un modd, gofalwch am eich ffrindiau
- Gall y madarch wneud ichi deimlo’n chwydlyd, yn ddryslyd ac yn flinedig
- Ar hyn o bryd, dim ond madarch hud sydd wedi’u paratoi sy'n gyffur Dosbarth A, ond fe fydd y gyfraith yn newid eleni a fydd yn golygu y bydd madarch Psilosybin amrwd yn gyffur dosbarth A
- Gall meddu ar fadarch hud wedi’u paratoi olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at saith mlynedd, a gall eu cyflenwi olygu dedfryd oes a faint fynnan nhw o ddirwy; fe fydd yr un peth yn wir yn achos madarch Psilosybin amrwd pan fydd y gyfraith yn newid eleni.




