Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Sbîd
- Powdwr llwydwyn i bincaidd yw sbïd. Ymhlith yr enwau eraill arno mae Amffetamin, Whizz ac Yabba. Gall amffetamin fod y gyffur presgripsiwn ac mae Dexamphetamine yn un enw arno, sef tabledi bach gwyn.
- Mae’n bosib cymryd sbïd ar sawl gwahanol ffurf, gan gynnwys ei lyncu, ei sniffian, ei rwbio ar gig y dannedd, ei gymysgu â diod neu ei chwistrellu.
- Effaith sbïd yw gwneud i’r defnyddwyr deimlo’n llawn cynnwrf ac egni, a’u hatal rhag teimlo’n newynog. Fodd bynnag, mae hefyd yn gwneud iddyn nhw fod yn aflonydd a methu â chysgu. Gallan nhw deimlo’n isel ac mewn hwyliau drwg am gwpl o ddyddiau.
- Gall sbïd fod yn gaethiwus; mwyaf byddwch chi’n ei gymryd mwyaf oll rydych chi’n debygol o fod ei angen i gael yr un effaith.
- Ymhlith y risgiau mae:
- Mae defnyddio sbïd yn effeithio ar y galon, ac mae’n arbennig o beryglus i unrhyw un sydd â chyflwr ar y galon neu bwysedd gwaed uchel
- Ymhlith effeithiau eraill mae ymosodedd, iselder, a bod yn fwy tebygol o gael dolur gwddf ac annwyd gan ei fod yn effeithio ar eich system imiwnedd
- Mae defnyddwyr sbïd mewn perygl o niweidio eu hunain os byddan nhw’n chwistrellu sbïd i mewn i’w gwythiennau, gan y gall arwain at fadredd. Mae yna hefyd risg o HIV/Aids, hepatitis B neu C pan fydd defnyddwyr yn rhannu nodwyddau. Mae’n bosib cymysgu sbïd â sylweddau eraill fel caffein a fitamin c, ac mae hyn yn berygl arall wrth chwistrellu.
- Mae sbïd yn gyffur dosbarth B felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei rannu am ddim neu ei werthu.
- Os bydd sbïd wedi’i baratoi i’w chwistrellu fe ddaw yn gyffur dosbarth A.
- Gall meddu ar sbïd olygu bwrw dedfryd yn y carchar am bum mlynedd.
- Gall cyflenwi sbïd i rywun arall olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at 14 mlynedd a faint fynnan nhw o ddirwy.




