Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Achosion Brys
- Mewn achos brys, ffoniwch 999 neu 112 o unrhyw ffôn a dywedwch wrth y teleffonydd pa wasanaeth y mae ei angen arnoch chi – heddlu, brigâd dân neu ambiwlans. Byddan nhw’n anfon help ar unwaith
- Peidiwch â deialu 999 neu 112 oni bai bod achos brys. Mae galwadau ffug yn costio bywydau ac arian. Fe allech chi hefyd wynebu dirwy
- Os byddwch chi neu rywun arall yn sâl, ond nid yw’n achos brys, ffoniwch Galw IECHYD ar y rhif isod neu ewch i weld eich meddyg teulu lleol
- Os oes angen cymorth yr heddlu arnoch chi, ond nid yw’n achos brys, ffoniwch eich gorsaf heddlu leol. Gallwch chi ddod o hyd i’r rhif yn y Tudalennau Melyn, trwy wasanaethau cyfeiriadur ffôn neu yn www.yell.com. Peidiwch â ffonio 999 oni bai ei fod yn achos brys
- Mae gan ysbytai adran Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfer achosion meddygol brys. Gallwch chi ddod o hyd i rif eich adran Damweiniau ac Achosion Brys yn y Tudalennau Melyn, trwy wasanaethau cyfeiriadur ffôn neu yn www.yell.com
- Os ydych chi’n gallu gwneud cymorth cyntaf fe allai hyn fod yn ddefnyddiol os bydd damwain neu achos meddygol brys, fel ffit, pwl o asthma neu orddos cyffuriau, tra’n aros am yr ambiwlans
- Mae cyrsiau cymorth cyntaf yn cael eu rhedeg ledled Cymru a gall eich helpu i achub bywydau
- Os byddwch chi’n cael eich hun mewn achos brys, ceisiwch aros yn ddigyffro a dod o hyd i help cyn gynted â phosib. Byddai gwybod rhywfaint am gymorth cyntaf hefyd yn helpu pe byddai problem feddygol




