Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Ysbytai

  • Mae triniaeth GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) yn rhad ac am ddim yn y DU
  • Oni bai ei fod yn achos brys a chithau angen triniaeth yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, ni allwch chi gerdded i mewn i'r ysbyty i gael triniaeth. Bydd meddyg yn eich atgyfeirio fel arfer
  • Gall fod yn brofiad brawychus mynd i’r ysbyty, ond mae’r meddygon a’r nyrsys yno i’ch helpu chi felly peidiwch â bod ofn siarad â nhw a rhannu unrhyw bryderon
  • Mae yna rai pethau y gallech chi fod am ystyried mynd â nhw gyda chi os byddwch chi’n mynd i’r ysbyty, fel:
    • Manylion cysylltu â’ch ffrindiau a’ch teulu
    • Unrhyw foddion rheolaidd
    • Dillad nos
    • Dillad isaf
    • Pethau ymolchi
    • Llyfrau, cylchgronau neu bosau
    • Pin a phapur
    • Bwyd neu fyrbrydau (gofynnwch i’ch meddyg beth y gallwch chi ei fwyta a beth na allwch chi ei fwyta)
  • Fel claf ysbyty, mae gennych chi rai hawliau penodol, gan gynnwys:
    • Cyfrinachedd
    • Gwrthod cael eich trin gan fyfyrwyr meddygol
    • Gweld eich nodiadau meddygol
    • Cael ail farn
    • Cael eich atgyfeirio at arbenigwr
    • Gwrthod cymryd rhan mewn treialon ymchwil
    • Cael gwybod am eich iechyd a phob opsiwn triniaeth
    • Bod â ffrind neu berthynas gyda chi
    • Cael dehonglydd neu arwyddwr i’ch helpu chi

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.