Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Alergeddau

  • Alergedd yw’r hyn sy’n digwydd pan fydd eich corff yn adweithio yn erbyn rhai sylweddau penodol. Alergenau yw’r enw ar y sylweddau yma, a gallan nhw amrywio o wahanol fwydydd i laswellt a phaill coed ac anifeiliaid anwes. Mae yna nifer fawr iawn o alergenau sy’n effeithio ar wahanol bobl. Mae’ch corff yn meddwl bod y sylweddau yma, sef sylweddau cyffredin iawn yn aml, yn ddrwg ichi ac mae’n ymladd yn eu herbyn gan achosi pob math o symptomau gan gynnwys tisian, gwichian yn y frest, brechau, chwydu a dolur rhydd.
  • Gall alergeddau difrifol iawn achosi anaffylacsis, sef adwaith alergaidd difrifol a sydyn sy’n effeithio ar y corff cyfan ac sy’n rhoi pwysau mawr ar y galon a system cylchrediad y gwaed. Os na fydd anaffylacsis yn cael ei drin yn gyflym fe allai fod yn angheuol.
  • Clefyd y Gwair yw’r alergedd y mae paill yn ei achosi, a bydd yn effeithio ar bobl yn bennaf yn ystod misoedd yr haf. Pan fydd y paill yn cael ei fewnanadlu bydd yn achosi i’r corff gynhyrchu histaminau a bydd y rhain yn gwneud ichi disian, i’ch llygaid ysu ac i’ch trwyn redeg. Mae yna nifer o gynhyrchion ar gael sy’n lleddfu symptomau Clefyd y Gwair, ac mae modd prynu’r rhain mewn siop fferyllydd.
  • Pigiadau a Brathiadau. Gall rhai anifeiliaid, yn enwedig trychfilod, bigo neu frathu os byddan nhw’n dod i gysylltiad â’ch croen. Gall y colyn y maen nhw’n ei adael ar ôl neu’r poer y maen nhw’n ei adael yn eich llif gwaed pan fyddan nhw’n brathu achosi adwaith alergaidd. Ymhlith y symptomau mae ysu, poen, cochni a chwydd ac weithiau adwaith alergaidd difrifol – sioc anaffylactig. Mae’n bwysig trin yr alergeddau yma a cheisio cyngor meddygol os yw’r adwaith yn ddifrifol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50