Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Anaemia
- Daw anemia o ganlyniad i ddiffyg celloedd gwaed coch yn eich corff. Anemia diffyg haearn yw’r math mwyaf cyffredin o anemia a’r hyn sy’n ei achosi yw'r corff yn colli gwaed yn gyflymach nag mae’n gallu ei gynhyrchu
- Gallwch chi golli haearn mewn chwys, mewn celloedd sy’n cwympo o’ch croen, a phan mae’r mislif arnoch chi yn eich gwaed mislifol. Os yw'ch mislif yn drwm mae'n syniad da cymryd tabled haearn bob dydd. Os nad ydych chi’n bwyta cig, mae’n bosib y bydd gennych chi ddiffyg haearn
- Mae’r canlynol ymhlith y pethau sy'n achosi anemia:
- Diet heb lawer o haearn a fitaminau, yn enwedig B12
- Mislif trwm
- Wlserau neu diwmorau yn y stumog
- Diffyg asid ffolig
- Afiechydon mêr esgyrn neu afiechydon gwaed eraill fel lewcemia
- Mae’r canlynol ymhlith symptomau anemia:
- Diffyg anadl
- Teimlo’n flinedig trwy’r amser
- Edrych yn llwyd ac yn welw
- Curiad afreolaidd y galon
- Penysgafnder
- Gall anemia arwain at:
- Boen yn y frest a’r coesau
- Cur pen
- Croen llwyd
- Ewinedd gwan a brau
- Colli pwysau
- Gall anemia effeithio ar blant a phobl yn eu harddegau sy’n tyfu, fel arfer oherwydd nad yw eu diet yn cynnwys digon o haearn, fitamin b12 ac asid ffolig
- Mae bwyd sy’n llawn haearn yn cynnwys cig coch, llysiau gwyrdd, wyau, bricyll sychion, sardinau, sbigoglys, bara gwenith cyfan a grawnfwydydd brecwast cadarn
- Hefyd, pan fyddwch chi’n feichiog fe all y corff fod â diffyg haearn a gall hyn ddatblygu yn anemia
- Mae yna fathau eraill o anemia ond nid yw’r rhain mor gyffredin
- Os byddwch chi’n dioddef o unrhyw rai o’r symptomau sydd wedi’u crybwyll, gwnewch yn siwr eich bod chi’n cysylltu â’ch meddyg




