Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Arogleuon y Corff

  • Chwysu yw ffordd eich corff o gael gwared â gwres mae’ch corff yn ei gynhyrchu o losgi egni neu o’ch cyhyrau yn gweithio
  • Bydd pawb yn chwysu i raddau gwahanol ar wahanol adegau, gan ddibynnu ar eu cyflwr emosiynol neu weithgaredd corfforol. Bydd pobl yn tueddu i chwysu mwy yn ystod ymarfer corff neu pan maen nhw’n nerfus
  • Nid oes arogleuon drwg ar chwys mewn gwirionedd – y bacteria sy’n byw ar eich croen ac yn adweithio â’ch chwys sy’n achosi’r arogleuon
  • Gallwch chi atal arogleuon y corff drwy ymolchi yn rheolaidd i gael gwared â’r bacteria ar eich croen. Dylech chi gael cawod drylwyr o leiaf unwaith bob dydd gan ddefnyddio sebon diarogli. Mae’n bwysig cadw’ch hun yn lân
  • Dylech chi olchi’ch dillad yn amlach – peidiwch â gwisgo dillad sydd heb eu golchi ddydd ar ôl dydd. Dylech chi olchi ddillad chwyslyd ar dymheredd uwch i’w glanhau yn iawn
  • Dylech chi wisgo dillad sydd wedi'u gwneud o ffibrau naturiol gan fod y rhain yn gadael i'ch croen 'anadlu' ac i'r chwys anweddu
  • Dylech chi ddefnyddio diaroglydd. Os ydych chi’n chwysu’n drwm, ceisiwch ddefnyddio diaroglydd sy’n cynnwys alwminiwm ocsid neu wrthchwyswr. Os ydych chi’n gweld eich bod chi’n chwysu llawer, edrychwch am ddiaroglydd meddyginiaethol
  • Hefyd, dylech chi osgoi bwyta bwydydd sbeislyd neu rai sydd ag oglau cryf fel garlleg a nionod. Fe fydd yr arogleuon yn dod allan trwy’r croendyllau
  • Dylech chi yfed digonedd o ddwr
  • Os byddwch chi’n sylwi ar arogleuon nad yw’n oglau chwyslyd amlwg, fe allai hyn awgrymu problem benodol:
    • fe allai oglau cwrw awgrymu cyflwr burum
    • fe allai oglau tynnwr farnis ewinedd awgrymu diabetes
    • fe allai oglau amonia awgrymu afiechyd yr iau
  • Mae stres yn gwneud ichi chwysu mwy, a bydd llawer o ferched yn sylwi eu bod nhw’n chwysu mwy yn ystod eu mislif
  • Os ydych chi’n dioddef o ddwylo, wyneb, ceseiliau a chroen pen sy’n rhy chwyslyd, mae’n bosib eich bod chi'n dioddef o gyflwr o’r enw hyperhydrosis
  • Peidiwch â theimlo cywilydd am chwysu. Gwnewch yn siwr eich bod chi’n cadw’ch corff a’ch dillad yn lân i osgoi arogleuon hen
  • Os oes gennych chi unrhyw bryderon, fe ddylech chi fynd i weld eich meddyg a fydd yn gallu rhoi cyngor ichi a dod o hyd i'r driniaeth iawn i chi

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.