Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Asthma

  • Mae yna fwy na 260,000 o bobl ag asthma yn byw yng Nghymru
  • Cyflwr sy’n effeithio ar eich pibelli gwynt yw asthma. Daw yn anodd anadlu wrth i’ch pibelli gwynt gulhau a llidio
  • Ymhlith y symptomau mae diffyg anadl, brest dynn, llygaid sy’n chwyddo ac yn dyfrio, gwich ar y frest a pheswch
  • Gall anwyd a pheswch, llygredd yr awyr, blew anifeiliaid, mwg sigarèts, llwch a mygdarthau cryf beri pwl o asthma
  • Bydd pwl o asthma yn digwydd wrth i’r pibelli gwynt chwyddo, wrth iddynt lenwi â mwcws ac wrth i fandiau’r cyhyrau dynhau. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cael aer i mewn ac allan o’r ysgyfaint, sy’n ei gwneud yn anodd anadlu
  • Er nad oes unrhyw beth i wella asthma yn llwyr, fe fydd y driniaeth iawn yn helpu. Gwelwch eich meddyg i gael cyngor ar driniaethau
  • Gall y rhai sy’n dioddef o asthma ddefnyddio cymysgedd o esmwythwyr ac atalwyr
    • Esmwythwyr: yn ymlacio’r cyhyrau yn ystod pwl, gan ddarparu rhyddhad dros dro
    • Atalwyr: gall dosys rheolaidd atal pyliau a rheoli'r chwyddo yn y pibelli gwynt

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.