Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Atal dweud

  • Bydd atal dweud yn digwydd pan fydd toriad yn y llif geiriau arferol oherwydd sill sy’n cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, sain estynedig neu floc llwyr ar y lleferydd. Mae gan bawb sydd ag atal dweud arnyn nhw batrwm atal dweud gwahanol
  • Nid oes unrhyw un yn gwybod beth sy’n achosi atal dweud, er mai’r gred yw bod stres corfforol neu emosiynol, bywyd yn y cartref a’r ysgol ac amgylchedd y sawl sy’n dioddef ohono yn cael rhyw effaith
  • Bydd rhai pobl sydd ag atal dweud arnyn nhw’n osgoi rhai geiriau neu sefyllfaoedd y maen nhw’n gwybod fydd yn achosi problem iddyn nhw. Weithiau gall atal dweud redeg yn y teulu
  • Yn aml, bydd yr atal dweud yn diflannu wrth ganu, sibrwd neu siarad fel grwp
  • Os ydych chi’n ei chael yn anodd cael eich geiriau allan, rhowch gynnig ar y canlynol:
    • Siarad yn araf ac yn eglur
    • Cymryd anadl dwfn ac ymlacio cyn dechrau siarad
    • Eistedd a sefyll yn syth
    • Edrych i fyw llygad y bobl rydych chi’n siarad â nhw
  • Efallai y byddwch chi am gysylltu â therapydd lleferydd a fydd yn gallu rhoi mwy o gyngor ichi ar sut i drin atal dweud

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50