Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Canser
- Mae mwy na 200 math o ganser, ond mae pob math yn dechrau yn yr un ffordd – celloedd annormal
- Mae celloedd y corff yn rhannu'n rheolaidd yn naturiol, ond pan fo signalau rheoli'r celloedd yn mynd o'i le, gall y celloedd dyfu ar raddfa annormal
- Gelwir y celloedd annormal hyn yn 'celloedd malaen' ('malignant') ac maen nhw'n rhannu llawer yn gyflymach na chelloedd normal
- Wrth i'r celloedd annormal rannu a rhannu, gallant droi'n lwmp neu'n glwstwr a elwir yn diwmor
- Mae rhai tiwmorau anfalaen ('benign') sy'n golygu nad oes angen eu trin, ond gall tiwmorau malaen ledaenu'n gyflym a rhaid iddynt gael eu trin yn syth. Maen nhw'n beryglus gan iddynt allu lledaenu i rannau eraill y corff a'u rhwystro rhag gweithio'n iawn.
- Mae sawl math o ganser. Y mathau cyffredin yw canser y croen, canser y bron, canser yr ysgyfaint, canser y brostad, canser y ceiliau, lewcemia a lymffoma. Ond, gall canser ddatblygu unrhyw le yn y corff
- Gall rhai mathau o ganser gael ei drechu os maen nhw’n cael ei ddal yn ddigon cynnar.
- Nid yw canser yn glefyd heintus – fedrwch chi ddim dal canser o bobl eraill na'i roi i unrhyw un
- Mae canser yn anghyffredin ymhlith pobl ifanc, ac eithrio canser y ceilliau, sy'n effeithio ar ddynion 15-35 oed
- Gallwch leihau'r risg o gael canser trwy beidio ag ysmygu, bwyta'n iachus ac osgoi aros allan yn yr haul neu drwy ddefnyddio hufen haul â ffactor uchel drwy'r amser
Mae’r Côd Ewropeaidd yn Erbyn Cancr yn rhoi rhestr o’r pethau i edrych allan amdanynt, gan gynnwys:
- Lwmp unrhyw le yn eich corff
- Newidiadau mewn gwadd neu ar dy groen
- Peswch neu grygni (hoarseness) sydd ddim yn gwella
- Gwaedu annormal
- Colli pwysau heb reswm
- Peidiwch â bod yn swil os oes gennych y symptomau hyn. Mae modd iacháu y rhan fwyaf o ganserau os maen nhw'n cael eu darganfod yn ddigon cynnar. Os ydych chi'n poeni am unrhyw beth, ewch i'ch meddyg teulu'n syth




