Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Clefyd y gwair

  • Alergedd i baill yw clefyd y gwair, ac mae’n gyffredin iawn. Mae’r alergedd yma gan bobl pan maen nhw’n cael eu geni, ond gall fod yn anactif a dod i’r amlwg yn ddiweddarach yn eu bywyd
  • Mae clefyd y gwair yn fwy cyffredin yn ystod eich arddegau ac rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef ohono os oes gennych chi asthma neu os yw'ch rhieni yn dioddef o glefyd y gwair
  • Os ydych chi’n dioddef o glefyd y gwair, pan fyddwch chi’n mewnanadlu paill, fe fydd yn llidio’ch pibellau anadlu ac yn achosi i’ch trwyn redeg neu deimlo’n llawn, llygaid coch sy’n ysu ac yn rhedeg, tisian, ceg sy’n goglais neu’n ysu, peswch a phen sy’n teimlo llawn anwyd
  • Mae’r cyfrif paill yn uwch rhwng mis Ebrill a mis Awst, a gall hyn waethygu'r symptomau
  • Er nad oes unrhyw beth i wella clefyd y gwair yn llwyr, gallwch chi gael triniaethau oddi wrth eich meddyg neu fferyllydd
  • Ymhlith y triniaethau mae chwistrell i’r trwyn, diferion i’r llygaid a thabledi gwrth-histamin
  • Gall rhai pobl sy’n dioddef o glefyd y gwair hefyd ddatblygu alergeddau trwy fwyta rhai ffrwythau, llysiau a chnau gan fod eu cyfrif paill yn uchel yn ystod misoedd yr haf

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.