Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Croen a Sbotiau
- Mae acne yn effeithio ar tua 80 y cant o bobl, ond mae’n effeithio’n fwy ar rai nag ar eraill. Gall acne fod yn unrhyw beth o ychydig o blorod i doreth ohonyn nhw ar eich croen
- Mae bechgyn yn fwy tebygol o ddioddef o acne na merched gan fod ganddyn nhw fwy o’r hormon testosteron sy’n gwneud plorod yn waeth
- Ar y wyneb y bydd plorod yn ymddangos amlaf, ond gallan nhw hefyd ymddangos ar y gwddf a’r gwar, yr ysgwyddau, y cefn a’r frest
- Mae gan y croen lawer iawn o chwarennau sy'n cynhyrchu olewau naturiol o'r enw sebwm. Yn aml yn ystod y glasoed, gall eich chwarennau gynhyrchu gormod o sebwm sy’n blocio mandyllau’ch croen. Pan fydd y mandyllau wedi’u blocio, byddan nhw’n trapio bacteria a fydd yn arwain at blorod
- Nid yw plorod yn ganlyniad uniongyrchol i fwyta bwydydd seimllyd neu siwgrog, er y bydd diet cytbwys gyda llawer o ffrwythau a llysiau’n gwella cyflwr eich croen ac yn rhoi ‘gwrid iach’ naturiol ichi
- Bydd yfed llawer o ddwr, cadw’n lân a gwneud ymarfer corff hefyd yn helpu’ch croen
- Mae’n bosib trin plorod trwy ddefnyddio hylif meddyginiaethol, hufennau glanhau’r wyneb a hufennau lleithio. Mae eli rhisgl (witch hazel) yn dda iawn ar gyfer cael gwared â phlorod. Y peth gorau i’w wneud yw gofyn i fferyllydd beth fyddai’r triniaethau gorau i chi
- Bydd rhai pobl yn dioddef o acne difrifol hefyd. Gallwch chi siarad â’ch meddyg a fydd yn gallu rhoi cyngor ichi a siarad am driniaethau addas ar bresgripsiwn
- Gall stres effeithio ar eich croen ac achosi i blorod ymddangos. Os ydych chi dan bwysau, ceisiwch ddod o hyd i rywun i siarad â nhw
- Mae yna fathau eraill o farciau ar y croen hefyd, gan gynnwys llosgiadau, mannau geni, creithiau, anffurfiadau a llidau’r croen
- Gall marciau’r croen effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Os ydych chi’n teimlo’n anhapus ynglyn â marc ar y croen, ceisiwch siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw neu defnyddiwch y cysylltau isod i gael mwy o wybodaeth




