Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Cur pen a'r Meigryn

  • Poen yn y pen ac ardal y gwar yw cur pen, a gall ei gryfder amrywio. Mae yna dri phrif fath o gur pen: tensiwn, clwstwr a'r meigryn
  • Gall stres, ystum corff gwael, straen y llygaid, alcohol, colli dwr yn y corff a chwant bwyd beri cur pen.

Cur pen tensiwn

  • Dyma’r cur pen mwyaf cyffredin, ac mae’n tueddu i effeithio ar ferched yn fwy nag ar ddynion
  • Y symptomau yw pwysau ar ochr y pen, y gwar a'r llygaid neu boen ysgafn sy'n gwaethygu gydol y dydd
  • Gallwch chi leddfu’r math yma o gur pen gyda phoenladdwyr fel ibuprofen neu barasetamol. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd poenladdwyr yn rhy rheolaidd, gan y gallai’ch corff ddod i ddibynnu arnyn nhw

Cur pen clwstwr

  • Mae’r cur pen yma’n anghyffredin a gall y symptomau bara am oriau neu ddyddiau hyd yn oed. Mae’n tueddu i effeithio ar fwy o ddynion nag o ferched
  • Y symptomau yw pigyn sydyn un ochr o’r pen ac o amgylch un llygad. Gall y llygad ddod yn llidiog ac yn ddyfrllyd
  • Ni fydd poenladdwyr safonol yn helpu’r math yma o gur pen, felly mae angen ichi weld eich meddyg a fydd yn rhagnodi’r driniaeth sydd orau i chi

Y meigryn

  • Mae’r meigryn yn llawer mwy na chur pen a gall ddod yn ôl drachefn a thrachefn
  • Pibellau gwaed wedi’u cyfyngu yn y pen a’r gwar sy’n achosi’r meigryn. Gallan nhw bara am dair i 72 awr a gallan nhw eich gadael yn teimlo wedi blino’n lân am ddyddiau wedyn
  • Ymhlith y symptomau mae plyciau o boen, yn aml ar un ochr o'r pen, cyfog, chwydu neu benysgafnder, dolur rhydd, sensitifrwydd i oleuadau, mannau dall a swn
  • Os ydych chi’n dioddef byth a hefyd o gur pen neu’r meigryn, ewch i weld eich Meddyg Teulu am gyngor ac archwiliad

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50