Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Cysgu
- Ar gyfartaledd, byddwn ni’n cysgu tua traean o’n bywydau. Mae angen inni gysgu er mwyn cadw’n meddwl a’n corff yn gweithio’n iawn
- Bydd angen tua 9 – 10 awr o gwsg bob nos ar blant hyn, a bydd angen tua 7 – 8 awr bob nos ar oedolion. Mae’n bosib y bydd angen mwy fyth ar bobl yn eu harddegau sy’n mynd trwy eu glasoed
Mathau o gwsg
- Mae yna ddau fath o gwsg a byddwn ni’n symud rhyngddyn nhw gydol y nos.
Cwsg Symudiad Llygad Cyflym (REM)
- Yn ystod y math yma o gwsg y byddwn ni’n breuddwydio. Bydd ein hymennydd yn fywiog, bydd y cyhyrau wedi ymlacio a bydd ein llygaid yn symud yn gyflym o’r naill ochr i’r llall.
Cwsg trwm
- Bydd yr ymennydd yn dawel ond bydd y corff yn symud o gwmpas. Dyma pryd y bydd y corff yn trwsio’i hun ac yn gwella ar ôl prysurdeb y dydd.
- Yn ystod noson arferol, byddwn ni hefyd yn deffro am ryw funud neu ddau. Oni bai ein bod ni’n pryderu ynglyn â rhywbeth, ni fyddwn ni fel arfer yn cofio deffro
Anhunedd
- Anhunedd yw'r enw ar gyflwr methu â chysgu, a gall stres, cynnwrf, bwyta'n hwyr yn y nos, chwant bwyd, alcohol, caffein a chyffuriau sy’n symbylu, gan gynnwys nicotin, ei achosi
- Ymhlith ffactorau eraill sy'n gallu arwain at anhunedd mae gwely neu ystafell wely anghyfforddus, problemau iechyd corfforol, apnoea cwsg (anadlu’n abnormal tra’n cysgu), asthma, tinitws, poen a diffyg traul
Cerdded yn eich cwsg
- Mae cerdded yn eich cwsg yn gyffredin ymysg plant ac oedolion ifanc. Mae’n tueddu i redeg yn y teulu
- Nid oes neb yn deall yn iawn pam y bydd rhai pobl yn ei wneud, ond y gred yw bod yna gysylltiad rhyngddo a stres neu bryder. Nid yw’n gyflwr difrifol
- Y perygl yw y gallai unrhyw un sy’n cerdded yn ei gwsg faglu neu gwympo. Gwnewch yn siwr eich bod chi wedi cloi’r drysau a bod yr allweddau allan o gyrraedd, ac arhoswch gyda rhywun sy’n cerdded yn ei gwsg tan ei fod yn ôl yn ei wely yn ddiogel
- Gallwch chi ddeffro rhywun sy’n cerdded yn ei gwsg heb ei beryglu, ond bydden ni ddim yn argymell hyn gan ei fod yn brofiad a allai ei ddychryn





1 Comment – Postiwch sylw
Sam (Sub-Editor)
Rhoddwyd sylw 35 mis yn ôl - 30th June 2010 - 10:24am
Good article on sleep here ---> http://www.thesprout.co.uk/en/news/got-sleep/02234.html