Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Ecsema
- Mae ecsema, neu ddermatitis, yn gyflwr croen sy’n gallu effeithio ar unrhyw un. Fel arfer fe fydd i'w weld fel croen sych a fflawiog sy’n ysu, gan achosi llid a brech goch ddolurus
- Gall llwch, anifeiliaid anwes, alergeddau bwyd, glanedyddion, sebonau a chynhyrchion harddwch beri hyn. Gall asthma, clefyd y gwair a stres ei achosi, a gall hefyd fod yn etifeddol
- Peidiwch â theimlo cywilydd os ydych chi’n dioddef o ecsema. Mae yna lawer o driniaethau ar gael, fel hufenau lleithio arbenigol, olewau bath a gwrth-histaminau. Fodd bynnag, siaradwch â’ch meddyg neu fferyllydd i gael cyngor ar y driniaeth sydd orau i chi
- Gall cymryd pils melyn yr hwyr (evening primrose) ac osgoi cynhyrchion llaeth helpu rhai pobl ag ecsema hefyd. Siaradwch â dietegwr i gael cyngor ar y bwydydd y dylech chi geisio’u hosgoi




