Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Epilepsi

  • Cyflwr sy’n achosi rhywun i gael ffitiau neu drawiadau drosodd a throsodd yw epilepsi. Bydd trawiad yn digwydd pan fydd ymyriad ar weithio normal yr ymennydd
  • Gall epilepsi effeithio ar unrhyw un, ac mae’n eithaf cyffredin. Er y gall epilepsi ddatblygu waeth beth fo’ch oed, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o’r cyflwr wedi ei ddatblygu yn ystod eu plentyndod
  • Mae yna wahanol fathau o drawiadau a gall y symptomau amrywio. Yn aml, does neb yn gwybod beth sy’n ei achosi, ond gall yfed gormod o alcohol, diffyg cwsg, teimlo'n sâl neu dan bwysau, rhai bwydydd penodol neu ddiet gwael, a goleuadau sy’n fflachio, fel y goleuadau ar y teledu neu gemau cyfrifiadurol, beri pyliau o epilepsi
  • Yn ystod trawiad fe allech chi golli ymwybod, dod yn benysgafn, dioddef o gyfangiadau cyhyrol – pan fydd eich breichiau a’ch coesau yn gwingo – neu fe allai’ch corff grynu neu stiffio. Gall trawiad bara ychydig o eiliadau neu fe all bara hyd at nifer o funudau
  • Mae modd trin epilepsi gyda chyffuriau y bydd eich meddyg yn eu rhagnodi. Bydd yn darparu’r cyffuriau gorau gyda’r sgïl-effeithiau lleiaf posib sy’n addas i chi. Mae trin epilepsi gyda chyffuriau fel arfer yn llwyddiannus iawn, a gall weithiau ddod â thrawiadau i ben yn llwyr
  • Gall fod yn brofiad brawychus cael ffit epileptig neu weld rhywun arall yn cael ffit. Os ydych chi’n adnabod rhywun ag epilepsi, byddai’n beth doeth dysgu beth i’w wneud pe byddai’n cael ffit, a bod yn barod ar gyfer hyn trwy gael rhywfaint o brofiad o gymorth cyntaf

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.