Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Heintiau Wrin ac Anymatal

Llid y Bledren (Cystitis)

  • Haint wrin yw llid y bledren sy’n cael ei achosi pan ddaw’r bledren a’r wrethra ( y tiwb sy’n cario’r wrin o’ch pledren allan o’ch corff) yn llidus
  • Mae’n anghyfforddus ac mae’n rhoi’r teimlad ichi eich bod chi am wneud dwr o hyd. Weithiau fe all yr wrin fod yn gymylog ac yn ddrewllyd, neu fe all gynnwys diferyn o waed
  • Gall bacteria o’r anws beri llid y bledren. Mae’n bwysig bod merched yn sychu o’r tu blaen i’r tu ôl i osgoi lledaenu’r bacteria tuag at y bledren
  • Gall rhyw egnïol neu aml hefyd ei achosi
  • Nid yw llid y bledren yn ddifrifol ac mae modd ei drin ag:
    • antibiotigau oddi wrth eich meddyg
    • triniaethau dros y cownter
    • yfed sudd llugaeron (cranberry)
    • yfed mwy o ddwr

Anymatal

  • Colli rheolaeth ar y bledren yn llwyr neu'n rhannol yw anymatal, gan olygu nad ydych chi'n gallu dal eich dwr
  • Fel arfer, pan fydd angen ichi wneud dwr, fe fydd eich pledren yn anfon neges i’r ymennydd i ddweud ei bod hi’n llawn. Bydd anymatal yn digwydd pan fydd y neges yn methu â chyrraedd eich ymennydd yn iawn

Mathau o anymatal

  • Anymatal stres: bydd ychydig iawn o wrin yn gollwng wrth wneud gweithgaredd corfforol. Bydd hyn yn digwydd pan fydd y cyhyrau yng ngwddf y bledren yn rhy wan i ddal y dwr yn eich pledren pan fyddwch chi’n pesychu, yn chwerthin, yn tisian neu’n gwneud gweithgaredd egnïol
  • Anymatal ysfa: bydd y bledren yn gwacáu yn llwyr
  • Mae yna nifer o ffyrdd o drin anymatal gan ddibynnu ar y math rydych chi’n dioddef ohono. Fe all fod o help yfed llawer o ddwr, a bwyta digonedd o ffrwythau a llysiau. Fe allai peidio â smygu a pheidio ag yfed alcohol neu gaffein hefyd leddfu anymatal
  • Hefyd, gallwch chi roi cynnig ar ymarferion llawr y pelfis er mwyn cryfhau'r cyhyrau
  • Fe all fod llawer o ffactorau sy’n gysylltiedig ag anymatal:
    • Stres
    • Ar ôl bod yn feichiog, o ganlyniad i lacio cyhyrau llawr y pelfis
    • Heintiau’r bledren (Cystitis)
    • Strôc
    • Canser ar ran benodol o’r corff
    • Diciâu
    • Sglerosis ymledol
    • Pledren lidiog
    • Gorddryswch henaint
    • Clefyd Alzheimer

Gwlychu’r gwely

  • Er mai ymhlith plant y mae gwlychu’r gwely fwyaf cyffredin, mae’n effeithio ar dros un miliwn o bobl yn y DU, gan gynnwys un ym mhob chwech o blant pump oed, un ym mhob 20 o blant deg oed ac un ym mhob cant o oedolion
  • Nid oes unrhyw un peth sy’n achosi gwlychu’r gwely, ond mae’n bosib ei fod yn gysylltiedig â stres, anymatal wrinol, alcohol, caffein, tabledi cysgu neu haint wrin
  • Ceisiwch gwtogi ar yr alcohol, y caffein a’r diodydd rydych chi’n eu hyfed cyn mynd i’r gwely. Efallai y byddwch chi am roi cynnig ar osod eich larwm cwpl o oriau cyn ichi fynd i gysgu i’ch deffro chi yn y nos neu gwpl o oriau cyn y byddech chi’n deffro fel arfer, er mwyn defnyddio'r toiled. Ceisiwch amrywio’r amser rydych chi’n ei osod fel nad ydych chi’n dod i arfer â gwacáu’ch pledren yr un amser bob nos
  • Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglyn â heintiau neu broblemau wrin, peidiwch â theimlo cywilydd. Gall eich meddyg eich cynghori ar sut i ddelio â’r broblem

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.