Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Llid yr Ymennydd
- Llid y pilenni o amgylch yr ymennydd a llinyn y cefn yw llid yr ymennydd. Fel arfer, haint fydd yn ei beri a gall effeithio ar bobl o bob oed
- Mae yna ddau fath o lid yr ymennydd
Llid yr Ymennydd Feirol
- Dyma’r un mwyaf cyffredin ymhlith oedolion ifanc, ac nid oes angen ei drin
- Mae’r symptomau’n debyg i rai’r ffliw gyda thwymyn a chyhyrau dolurus
Llid yr Ymennydd Bacterol
- Mae Llid yr Ymennydd Bacterol yn beryglus iawn a gall fygwth bywyd. Gall y symptomau ddatblygu’n gyflym cyn pen oriau a gallan nhw gynnwys:
- Cur pen difrifol
- Twymyn
- Cric yn y gwar
- Sensitifrwydd i oleuadau llachar
- Cyfog a chwydu
- Brech goch neu biws sydd ddim yn diflannu wrth ei gwasgu h.y. gyda gwydryn. Gall y frech yma gychwyn ar ffurf priciau pin coch neu biws ar y croen
- Os oes gennych chi neu unrhyw un o’ch ffrindiau unrhyw rai o’r symptomau yma, mae’n rhaid ichi gael help meddygol ar unwaith gan ei bod yn bosib y bydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn ddi-oed
- Gall Llid yr Ymennydd Bacterol achosi cymhlethdodau gan gynnwys niwed i’r clyw, niwed i’r nerfau, strôcs, crawniadau’r ymennydd a marwolaeth
- Llid yr ymennydd meningococcal yw’r math mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacterol, a bydd hwn yn lledaenu’n gyflym trwy besychu, tisian a chusanu. Mae’n effeithio ar bobl ifanc yn bennaf
- Grwpiau B a C yw’r enwau ar y mathau mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd meningococcal
- Nid oes unrhyw frechiad ar gyfer grwp B eto, ond mae imiwneiddiad yn erbyn llid yr ymennydd grwp C yn rhad ac am ddim i bobl dan 25 oed. Os nad ydych chi wedi cael eich brechu eto, trefnwch apwyntiad gyda’ch Meddyg Teulu cyn gynted â phosib
Gall llid yr ymennydd ladd, felly byddwch yn ymwybodol o’r symptomau a cheisiwch help meddygol yn ddi-oed os bydd unrhyw rai o’r symptomau’n datblygu




