Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » M.E.

  • Blinder gwanychol yw Enseffalomyelitis Myalgig (ME) sy’n effeithio ar y system nerfol a’r system imiwnedd. Mae Syndrom Blinder Cronig (CFS) yn enw arall arno
  • Ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin mae lludded, poen yn y cyhyrau, ei chael yn anodd canolbwyntio a phroblemau â’r cof
  • Gall ME effeithio ar bobl o bob oed, ond mae’n fwy cyffredin ymhlith pobl rhwng 20 a 45 oed ac mewn merched
  • Er bod y pethau sy'n achosi'r cyflwr yma'n gymharol anhysbys, gall ME ddatblygu ar ôl firws fel y ffliw neu dwymyn y chwarennau
  • Credir bod brechiadau neu docsinau yn ein hamgylchoedd hefyd yn gallu peri ME
  • Nid oes unrhyw driniaeth ar gyfer ME er y gwelwyd bod cwnsela wedi helpu rhai pobl drwy leddfu stres neu newid ymddygiad
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o ME yn sylweddoli bod angen iddyn nhw gael cydbwysedd iach rhwng bod yn brysur a gorffwys
  • Os oes gennych chi unrhyw symptomau ME, ewch i weld eich meddyg cyn gynted â phosib. Fe fydd eich meddyg yn eich cynghori ar y ffyrdd gorau o ddelio â’r cyflwr yma ac ar ffyrdd o addasu’ch dull o fyw i ymdopi ag ME

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50