Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Tarwden y Traed
- Haint ffyngaidd parhaus yw tarwden y traed. Bydd yn tyfu mewn rhannau cynnes, chwyslyd y corff, fel rhwng bysedd eich traed
- Gall y ffwng ymledu i ewinedd y traed. Bydd tarwden y traed yn gwneud i’ch traed ysu, a bod yn goch ac yn ddolurus. Fe allai’ch traed fod ag aroglau drwg arnyn nhw
- Os na fydd tarwden y traed yn cael ei drin, fe ddaw’r croen yn soeglyd a bydd yn cracio ac yn pilio. Gallai’r croen godi pothelli a dod yn ddolurus, ac fe allai ddatblygu haint bacterol mwy difrifol
- Mae tarwden y traed yn heintus. Gallwch chi gael tarwden y traed o rannu tyweli ac o amgylcheddau comunol, gwlyb fel ystafelloedd newid pwll nofio neu gawodydd. Gwisgwch fflip-fflops neu esgidiau plastig bob amser i amddiffyn eich traed
Triniaethau
- Os byddwch chi’n rhoi powdwr tarwden y traed ac eli gwrth-ffyngaidd (sy’n cynnwys clotrimazole) ar eich traed fe ddylai hyn helpu
- Os na fydd yn helpu, ewch i weld eich meddyg a fydd, o bosib, yn gallu rhagnodi tabled gwrth-ffyngaidd ichi
Atal
- Cadwch eich traed yn rhydd o haint ffyngaidd trwy:
- gadw’ch traed a’ch esgidiau yn sych
- gwisgo hosanau glân bob dydd
- peidio â gwisgo esgidiau heb hosanau neu deits
- amrywio’r esgidiau rydych chi’n eu gwisgo
- gwisgo esgidiau a hosanau o’r maint iawn
- torri ewinedd eich traed yn iawn
- Os ydych chi’n poeni am eich traed, gwelwch eich meddyg a fydd yn gallu trafod y driniaeth sy’n iawn i chi




