Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Tatws a Chelf y Corff

Tatws

  • Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid ichi fod yn 18 oed neu'n hyn i gael tatw. Mae’n bosib erlyn tatwydd os byddwch chi’n cael tatw a chithau dan 18 oed
  • Mae tatw yn cael ei greu gyda nodwydd ddirgrynol sy’n pigo trwy haen uchaf y croen ac yn chwistrellu inc i mewn. Fe all fod yn brofiad poenus
  • Os ydych chi’n meddwl am gael tatw, gwnewch yn siwr:
    • Bod yr offer wedi’u diheintio. Mae’n rhaid i bob nodwydd fod yn newydd, yn lân ac yn ddi-haint ar gyfer pob tatw. Mae hepatitis B a HIV yn risg gyda nodwyddau budr neu nodwyddau sy’n cael eu rhannu
    • Bod y tatwydd wedi’i gofrestru a bod ei dystysgrif wedi’i harddangos
  • Fe all tatw gostio unrhyw beth o £10 i fyny, gan ddibynnu ar ei faint, ei liw a’i siâp, a pha mor fanwl yw’r ddelwedd
  • Mae tatws yn barhaol, felly meddyliwch am eich penderfyniad yn ofalus. Er enghraifft, a fyddwch chi'n dal i hoffi’ch tatw mewn blynyddoedd i ddod? Hefyd, os yw’n bosibl gweld eich tatw, meddyliwch tybed beth fydd cyflogwr yn meddwl ohono yn y dyfodol
  • Mae triniaeth laser yn gallu cael gwared â tatws, ond mae’n broses ddrud ac mae’n bosib y bydd yn gadael craith barhaol ar ei hôl

Tyllu’r corff

  • Mae’n rhaid ichi fod yn 18 oed i gael rhan o’ch corff wedi’i dyllu neu mae’n rhaid ichi gael caniatâd eich rhieni os ydych chi dan 18 oed
  • Mae tyllu yn ffurf arall ar gelf y corff, lle bydd rhan o’r corff yn cael ei dyllu â nodwydd â gwain blastig wag a bydd darn o emwaith yn cael ei wthio trwy’r twll
  • Defnyddir gwn wedi’i gynllunio’n arbennig i dyllu’r clustiau. Ymhlith enghreifftiau eraill o dyllu’r corff mae tyllu’r botwm bol, y trwyn, yr aeliau, y deth, yr organau cenhedlu a’r dafod
  • Gwnewch yn siwr bod y tyllwr wedi’i gofrestru â sefydliad proffesiynol, fel yr Association of Professional Piercers
  • Ar ôl y tyllu, gwnewch yn siwr eich bod chi’n cadw’r rhan honno o’r corff yn lân i leihau’r risg o haint. Bydd y tyllwr yn dweud wrthych chi’r ffyrdd gorau o ofalu am y twll wedyn
  • Fe all gymryd hyd at chwe mis i dyllau wella yn iawn
  • Ymhlith dulliau eraill o gelf y corff mae: tatws ffug, tatws henna, stensilau, tatws wedi’u paentio, gemwaith ffug i’r corff a bindis

5 CommentsPostiwch sylw

SirClucky

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 14th March 2012 - 16:29pm

Some good advice here, but if I'm not mistaken you can have a tattoo/piercing at 16 with your parent/guardian's consent?

Also, a good tip is to eat before having a tattoo, even if it is just a few biscuits. During a tattoo the body releases ahdrenaline, and if it is not absorbed or broken down (for which sugar is required) then it can leave you feeling nauseous and dizzy.

Please think about the employer note - you cannot enter a professional career generally if you have tattoos on display, and besides, tattoo concealer is very expensive!

Safe creativity guys and dolls! x

Sam (Sub-Editor)

Sam (Sub-Editor)

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 14th March 2012 - 17:21pm

According to the Tattooing Of Minors Act 1969...

"It shall be an offence to tattoo a person under the age of eighteen except when the tattoo is performed for medical reasons by a duly qualified medical practioner or by a person working under his direction, but it shall be a defence for a person charged to show that at the time the tattoo was performed he had reasonable cause to believe that the person tattooed was of or over the age of eighteen and did in fact so believe."

Ihavethecyrusvirusx

Ihavethecyrusvirusx

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 14th March 2012 - 17:44pm

There was a tatooist down the road from where I live who tattooed 11 year old kids. He was doing it for years and only like 2 years ago he got shut down. Shame, if he wasn't an idiot and tattooed them, he'd still have a good business because apparently, he was quite talented. Just thought I'd say...

Sam (Sub-Editor)

Sam (Sub-Editor)

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 14th March 2012 - 17:53pm

Really? Who at 11 knows what tattoo they want for the rest of their lives?

Ihavethecyrusvirusx

Ihavethecyrusvirusx

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 14th March 2012 - 19:51pm

A lot of 11 year olds where I live think they are like 18 or something. They try to grow up way too fast. I've seen kids who were in my primary school that have just started the comp smoking. They really need to slow down with it all because they're ruining their childhoods.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.