Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Torheulo
Cael lliw haul
- Fe allai fod yn beth peryglus treulio gormod o amser yn yr haul. Gall pelydrau uwchfioled (UV) yng ngolau’r haul niweidio’r celloedd yn eich corff, a gall hyn arwain at ganser y croen, crychau a heneiddio cynamserol
- Mae cael lliw haul yn broses naturiol – ffordd eich corff o amddiffyn ei hun rhag yr haul ydy hyn. Pan fydd golau’r haul ar eich croen fe fydd yn creu cemegyn o’r enw melanin, sef cemegyn sy’n gwneud i’ch croen fynd yn dywyllach. Bydd hwn yn eich atal rhag llosgi mor hawdd, ond nid yw’n eich amddiffyn rhag heneiddio’n gynamserol na rhag canser
- Lleiaf y melanin sydd gennych chi, lleiaf yw’r amddiffyniad sydd gennych chi rhag yr haul. Mae gan bobl sydd â chroen golau lai o felanin na phobl â chroen tywyllach, ac felly maen nhw’n fwy tebygol o losgi. Mae pobl â gwallt coch neu frychni haul hefyd yn fwy tebygol o losgi
- Mae’n bwysig amddiffyn eich croen rhag pelydrau’r haul drwy ddefnyddio eli haul ffactor uchel, rhoi dillad llac dros unrhyw groen sydd i’w weld, a gwisgo het a sbectol haul
- Mae pelydrau’r haul yn gryfach yn agos i ddwr, tywod ac eira – felly byddwch yn fwy gofalus fyth trwy ddefnyddio eli haul ffactor uwch a’i roi ar eich croen yn amlach
Llosg haul a chanser y croen
- Byddwch chi’n cael llosg haul trwy fod yn yr haul yn rhy hir, gan arwain at groen coch a dolurus a chroen sy’n pilio neu’n pothellu. Bydd hyn yn digwydd amlaf trwy ddefnyddio eli haul â’r ffactor anghywir, neu beidio â defnyddio unrhyw eli haul o gwbl
- Mae’n bosib trin llosg haul trwy ddefnyddio gel aloe vera neu eli ôl-haul. Mewn achosion difrifol, fodd bynnag, efallai y bydd angen ei drin yn yr ysbyty. Mae’n well osgoi trin llosg haul gydag elïau sydd wedi’u seilio ar fenyn neu betrolewm – maen nhw’n trapio’r gwres yn eich croen yn hytrach na’i oeri
- Bob tro y bydd croen yn cael ei losgi neu’n cael lliw haul, mae celloedd y croen yn cael eu niweidio a gall hyn achosi canser y croen, felly mae'n bwysig gofalu am eich croen yn yr haul
- Mae canser y croen yn effeithio ar 50,000 o Brydeinwyr bob blwyddyn
- Mae’n bwysig cadw llygad ar unrhyw newidiadau mewn môl neu fannau geni, fel newid lliw neu faint, neu os byddan nhw’n dechrau ysu, bod yn boenus neu ddolurus
- Ymhlith yr arwyddion rhybuddio eraill mae:
- Tyfiannau neu smotiau tywyll neu afreolaidd yn ymddangos
- Pigment yn lledaenu
- Gwaedu o amgylch mannau geni
- Os oes gennych chi rhai o’r symptomau yma, mae’n rhaid ichi weld eich meddyg ar unwaith. Mae’n bosib trin llawer o ganserau os ydyn nhw'n cael eu dal yn ddigon buan
Gwelyau haul
- Mae’n anghyfreithlon defnyddio gwely haul os ydych chi dan 16 oed. Dylech chi ddim defnyddio gwely haul bob dydd
- Mae gwelyau haul yr un mor beryglus â’r haul gan eu bod nhw’n creu pelydrau UV niweidiol. Mae’r rhain yn achosi canser y croen, heneiddio cynamserol a chrychau
- Os byddwch chi’n dewis defnyddio un, gwnewch yn siwr eich bod chi’n gwisgo gogls i amddiffyn eich llygaid
- I gael lliw haul diogel, heb unrhyw risg o heneiddio neu gael canser y croen, defnyddiwch liw haul ffug. Mae yna rai cynhyrchion lliw haul ffug naturiol iawn ar y farchnad, ar gael mewn chwistrellau, elïau a mousses. Nid yw lliw haul ffug yn cynnig unrhyw sgrïn rhag yr haul
Buddiannau’r heulwen
- Er y gallai wneud niwed ichi fod allan yn yr haul gormod, gall yr heulwen fod yn llesol. Pelydriad UV yw ein prif ffynhonnell Fitamin D sy’n helpu i adeiladu esgyrn a chyhyrau cryfion. Mae golau’r haul hefyd yn sbarduno cemegau yn ein hymennydd sy’n gwneud inni deimlo’n hapus
Os ydych chi’n poeni am ganser y croen ac am dorheulo, siaradwch â’ch Meddyg Teulu sy’n gallu rhoi mwy o gyngor ichi ar gadw’n ddiogel yn yr haul.




