Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Ffobias ac Arferion

Ffobia

  • Ofn dwys sefyllfa neu wrthrych na fyddai’n poeni pobl eraill fel arfer yw ffobia
  • Mae yna dros 10 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o ffobia, felly beth bynnag yw’ch ffobia chi, fe fydd rhywun sy’n deall
  • Mae yna ambell fath o ffobia:
    • Ffobiâu penodol e.e. anifail, pryf, germau, pigiadau neu hedfan
    • Ffobiâu sefyllfa e.e. tywyllwch, uchder, gofodau wedi’u cau i mewn neu bod ar eich pen eich hun
    • Ffobiâu cymdeithasol e.e. siarad yn gyhoeddus, bwyta o flaen pobl eraill
    • Ffobiâu salwch e.e. ynglyn â mynd yn sâl
  • Weithiau mae’n bosib olrhain ffobiâu i brofiad neu ddigwyddiad brawychus yn ystod plentyndod
  • Mae modd trin ffobiâu trwy ddefnyddio triniaethau siarad fel cwnsela neu hypnotherapi, ond mae'n bosib y bydd angen triniaeth feddygol ar gyfer ffobiâu mwy difrifol
  • Nid salwch yw ffobia, ond fe all beri pyliau o banig sy’n arwain at symptomau corfforol, fel teimlo’n wanllyd, chwysu a diffyg anadl. Gwelwch adran Pyliau o Banig i gael mwy o help a chyngor

Arferiadau

  • Patrwm cyffredin o ymddygiad sy’n cael ei ailadrodd yn aml yw arferiad
  • Gall arferiadau gynnwys cnoi eich ewinedd, chwarae gyda’ch gwallt neu gracio cygnau’ch bysedd
  • Bydd arferiadau’n cael eu ffurfio dros amser ac maen nhw'n ddiberygl ar y cyfan, er ei bod hi’n anodd cael gwared â nhw
  • Cyflwr yw Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) lle bydd pobl yn meddwl am yr un pethau drosodd a throsodd a/neu’n gwneud yr un pethau drosodd a throsodd, a gall hyn fod yn fwy difrifol nag arferiad cyffredin
  • Fel arfer, fe fydd yn achosi ichi wneud yr un pethau drosodd a throsodd neu bod â defodau lle bydd eich ofnau a’ch pryderon yn dod yn obsesiwn
  • Ymhlith obsesiynau cyffredin mae germau a baw, a gall hyn arwain at olchi dwylo neu lanhau yn ddefodol
  • Therapi i’ch helpu i newid eich ymddygiad yw’r driniaeth orau ar gyfer OCD
  • Os ydych chi’n poeni am ffobia neu anhwylder gorfodaeth obsesiynol, mae'n syniad da siarad â rhywun a mynd i weld eich Meddyg Teulu i gael cyngor ar driniaeth. Mae’n bosib trin y ddau beth cyn belled â’ch bod chi’n cael y gefnogaeth iawn.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50