Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Iselder

Gall iselder effeithio ar bobl o bob oed, cefndir, ffordd o fyw a chenhedloedd. Gall y rhan fwyaf o bobl gydag iselder fyw eu bywydau yn arferol ac mae llawer o bobl yn dysgu llawer amdanyn nhw eu hunain ar ôl byw drwy gyfnod o iselder.

Defnyddir y gair iselder mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gall pawb deimlo'n drist neu'n ddigalon pan fo pethau drwg yn digwydd. Ond nid iselder yw digalondid a thristwch bob dydd. Gall pobl sy'n ddigalon fod â mwd digalon am dymor byr, ond gallant ymdopi ac maent yn gwella'n fuan heb driniaeth.

Mae iselder yn mynd yn fwyfwy cyffredin. Gall rhai digwyddiadau yn ein bywydau sbarduno cyfnodau o iselder, er enghraifft straen arholiadau neu waith, problemau teuluol, neu bryderon am hunaniaeth neu duedd rywiol. Gall newidiadau hormonaidd, fel yn ystod glaslencyndod, beichiogrwydd neu ddiwedd y mislif hefyd gyfrannu at iselder.

Gall pobl sy'n bryderus brofi -

  • Tristwch neu hwyl isel parhaus
  • Diffyg diddordeb neu bleser
  • Blinder neu ddiffyg egni
  • Methu â chysgu
  • Methu â chanolbwyntio neu fethu â gwneud penderfyniadau
  • Hunanhyder isel
  • Archwaeth gwael neu fwy o archwaeth
  • Meddyliau neu weithredoedd yn ymwneud â hunanladdiad
  • Cyffro neu arafu symudiadau
  • Euogrwydd neu feio'r hunan

Nid oes gan bawb sy'n dioddef o iselder yr holl symptomau hyn. Bydd gan bobl sydd ag iselder mwy difrifol fwy o symptomau na'r rhai hynny sydd ag iselder cymedrol.

Gall ffrindiau a theulu fod yn ffynhonnell cymorth bwysig iawn i rywun sydd ag iselder. Mae pobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y rhai o'u cwmpas yn gwella'n gyflymach. Nid yw gwella o iselder mor syml â “thynnu eich hun at eich gilydd”. Mae clywed hynny yn brifo pobl yn arw, a gall wneud i bobl deimlo yn waeth amdanynt eu hunain, gan wneud eu hiselder yn waeth.

Ceir llawer o driniaethau ar gyfer iselder, o feddyginiaeth i therapïau cyflenwol i driniaethau siarad. Os ydych chi'n meddwl y gallwch fod yn ddigalon, siaradwch â rhywun am sut rydych yn teimlo neu gwnewch apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu.

1 CommentPostiwch sylw

Pasternak

Pasternak

Rhoddwyd sylw 27 mis yn ôl - 7th February 2010 - 20:39pm

I would thoroughly recommend taking just five minutes to read this page on suicide if you feel like you're drowning. It helped me through a dark time.

http://www.metanoia.org/suicide/

One thing that always stuck in my head was the line "People often turn to suicide because they are seeking relief from pain. Remember that relief is a feeling. And you have to be alive to feel it. You will not feel the relief you so desperately seek, if you are dead."

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.