Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Seicosis
Mae Seicosis yn ymadrodd seiciatryddol, ac mae'n disgrifio profiadau fel clywed neu weld pethau neu fod â chredoau anghyffredin, nad yw pobl eraill yn eu gweld nac yn eu rhannu. Gall seicosis weithiau arwain at aflonyddu ar ffordd o feddwl, emosiynau ac ymddygiad pobl. Mae rhai symptomau cyffredin o seicosis yn cynnwys – iselder, pryder, bod yn groendenau, bod yn amheus o bobl eraill, newidiadau i'ch arferion bwyta, llai o egni, anhawster i ganolbwyntio, syniadau od ac yn y blaen.
Dyma rai ffurfiau cyffredin o seicosis
Sgitsoffrenia
Nid oes gan sgitsoffrenia unrhyw beth i'w wneud â ‘phersonoliaeth ranedig'. Mae'r gair sgitsoffrenia yn golygu ‘meddwl wedi ei hollti' ac mae'n cyfeirio at newidiadau mewn swyddogaeth feddyliol pan newidir syniadau ac amgyffred. Mae'n effeithio ar feddwl, teimlo ac ymddygiad.
Gall effeithio ar bobl o bob cylch mewn bywyd. Mae'r symptomau cynnar yn aml yn datblygu mewn oedolaeth gynnar ac yn amrywio o berson i berson, ond gall barhau heb gael diagnosis.
I rai gall y salwch ddechrau yn sydyn, fel arfer mae'r person (ifanc) yn mynd yn sâl yn gyflym iawn ac yn ddifrifol iawn. Gall eu syniadau fynd yn gymysglyd neu gallant brofi rhithweledigaethau. I eraill gall y newid ddigwydd yn raddol
Gall y person brofi
- Rhithweledigaethau (clywed, gweld, teimlo, arogli neu flasu rhywbeth nad yw'n bodoli, fel pe bai yn real).
- Clywed lleisiau yw'r rhithweledigaeth fwyaf cyffredin a brofir.
- Gall y person fod â chredoau ffug sy'n aml yn anghyffredin a allant deimlo sy'n real iawn. Er enghraifft, gall rhywun ofni ei fod yn cael ei wylio neu ei ddilyn. Gelwir y credoau hyn yn rhithdybiaethau.
- Mae'r person yn ymddangos fel pe bai'n dangos prin ddim emosiwn neu pan wna hynny gall ymddangos allan o'i gyd-destun e.e. crio wrth glywed jôc.
- Efallai mai ychydig iawn maent yn ei ddweud ac anaml y byddant yn dechrau sgwrs. Gallant siarad mewn modd a fydd yn ymddangos yn gymysglyd ac yn afresymegol, gan gyfleu ychydig iawn o ystyr. Gallant feddwl neu weithredu mewn modd na ellir ei ddeall yn hawdd.
Anhwylder Deubegwn/ Iselder Manig
Mae Anhwylder Deubegwn ac Iselder Manig yn cyfeirio at yr un broblem iechyd meddwl. Mae diagnosis yn aml yn anodd oherwydd mae'r symptomau yn gymhleth, a chaiff triniaeth briodol ei hoedi yn aml am hyd at ddegawd ar ôl y symptomau cyntaf. Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder deubegwn.
Bydd rhwng 10-20% o bobl gydag anhwylder deubegwn yn cymryd eu bywydau eu hunain, a bydd hyd at draean yn gwneud ymdrech i gyflawni hunanladdiad.
Mae anhwylder deubegwn yn cynnwys hwyliau ansad eithafol (bod yn uchel ac yn isel). Gall yn aml ddigwydd pan fo pwysau gwaith, astudiaethau, teulu neu straen emosiynol ar eu huchaf. Mewn merched gellir sbarduno hyn gan enedigaeth neu yn ystod diwedd y mislif. Mae'r cyfnod cyntaf o fod yn sâl yn digwydd fel arfer yn ystod glasoed pan all newidiadau hormonaidd neu newidiadau mawr mewn bywyd (fel gadael cartref) sbarduno'r cyflwr.
Mania yw'r gair a ddefnyddir am gyfnodau o orfoledd mawr.
- Bydd meddwl rhywun yn rasio
- Gall siarad yn gyflym iawn
- Gall fod yn llawn egni
- Efallai na fydd yn cysgu llawer
- Neu yn y pen eithaf – bydd yn dechrau credu bod ganddo bwerau neu alluoedd arbennig
- Gall wario llawer o arian
- Gall fod â chredoau crefyddol eithafol
- Gall gymryd risgiau peryglus
Gall cyflwr deubegwn ddigwydd mewn camau, yn aml gyda chyfnodau heb unrhyw broblemau o gwbl rhyngddynt. Mae rhai pobl yn cael dim ond un cyfnod difrifol o fod yn sâl yn ystod eu hoes.
Mae'n ymddangos mai'r allwedd i wella o anhwylder deubegwn yw diagnosis a thriniaeth gyflym. Os ydych yn dioddef o unrhyw rai o'r symptomau a restrwyd, ewch i weld eich Meddyg Teulu a siaradwch â ffrind agos neu aelod o'r teulu a all fod yn gallu eich helpu.
Anhwylder Personoliaeth
Personoliaeth yw'r casgliad o ffyrdd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, sy'n gwneud pob un ohonom yn unigolyn ac sy'n caniatáu i ni ryngweithio gyda phobl eraill. Ond i rai nid yw hyn yn digwydd.
Gallwch fod ag anhwylder personoliaeth os:
- Bydd rhannau o'ch personoliaeth yn ei gwneud yn anodd i chi fyw gyda chi eich hun a phobl eraill
- Nad yw profiad yn eich dysgu sut i newid y rhannau anodd ohonoch chi eich hun
- Rydych yn ei chael yn anodd gwneud neu gadw perthnasoedd gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr
- Rydych yn ei chael yn anodd rheoli eich teimladau neu eich ymddygiad
- Rydych yn darganfod eich bod yn ypsetio neu yn niweidio pobl eraill oherwydd eich bod chi mewn trallod
Nid yw achos anhwylder personoliaeth yn eglur, ond ceir rhywfaint o dystiolaeth, fel gydag anhwylderau meddyliol eraill, y gall genynnau, yr ymennydd a chefndir rhywun i gyd chwarae rhan. Mae llawer o ffyrdd o drin anhwylderau personoliaeth, gofynnwch am gymorth gan eich Meddyg Teulu neu siaradwch â rhywun os ydych yn bryderus am unrhyw beth yn yr adran hon.




