Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Straen/Pryder ac Ymosodiadau o Banig

Mae pryder yn deimlad y bydd pawb yn ei brofi rywbryd. Rydym i gyd yn ei brofi pan wynebir ni gyda sefyllfaoedd sy'n fygythiol neu yn anodd i ni. Gall effeithio ar rywun o ran eu corff a'u meddwl, a gellir ei achosi gan bryder neu ofn.

Bydd 1 o bob 10 o bobl yn profi pryder neu ffobia rywbryd yn eu bywydau.

Fel arfer, gall ofn a phryder fod yn gymorth, gan ein helpu i osgoi sefyllfaoedd peryglus, gan ein gwneud yn effro a'n hysgogi i ymdrin gyda phroblemau. Ond os bydd y teimladau yn mynd yn rhy gryf neu yn mynd ymlaen yn rhy hir, gall ein hatal rhag gwneud y pethau a ddymunwn a gwneud ein bywydau yn ddiflas¹.

Gall pobl sydd o dan straen neu sy'n bryderus

  • Deimlo'n bryderus drwy'r amser
  • Teimlo'n flinedig
  • Bod yn methu â chanolbwyntio
  • Teimlo'n groendenau
  • Cysgu 'n wael
  • Bod â chrychguriadau'r galon
  • Chwysu'n drwm
  • Bod â chyhyrau dolurus a phoen
  • Anadlu'n drwm
  • Fod yn benysgafn
  • Teimlo fel llewygu
  • Bod â diffyg traul
  • Bod â dolur rhydd

Mae ymosodiad o banig yn digwydd pan fo ofn a phryder dwys yn taro rhywun. Dyma symptomau ymosodiad o banig:

  • Ymwybyddiaeth gynyddol am guriad y galon
  • Chwysu
  • Ysgwyd
  • Ymdeimlad o dagu, diffyg anadl neu fygu
  • Poen neu anghysur yn y frest
  • Teimlo'n sâl neu boen stumog
  • Teimlad o afrealrwydd neu fod ar wahâ n i chi eich hun neu'ch amgylchion
  • Penysgafn, ansad neu deimlo eich bod yn llewygu
  • Ofn marw
  • Diffrwythder, goglais neu binnau bach
  • Fferdod neu chwiwiau poeth

Gall siarad am y broblem gyda ffrindiau neu deulu fod yn fanteisiol. Gall dod o hyd i ffyrdd i ymlacio helpu i reoli pryder a thensiwn – unrhyw beth o lyfrau i helpu eich hun a DVDs i ofyn am gymorth proffesiynol.

Gall meddyginiaeth helpu e.e. cyffuriau tebyg i vallium neu dawelyddion. Maent yn effeithiol am liniaru pryder ond gallant fod yn gaethiwus, a phan fo pobl yn stopio eu cymryd gallant brofi sgil-effeithiau annymunol. Ni ddylid eu defnyddio i drin problemau pryder yn y tymor hwy.

Cofiwch
-Siarad am eich teimladau
-Cadw'n actif
-Bwyta'n dda
-Cyfyngu ar eich alcohol
-Treulio amser gyda'ch ffrindiau a'ch teulu
-Gofyn am gymorth
-Cymryd egwyl
-Gwneud rhywbeth rydych yn dda am ei wneud
-Bod yn chi eich hun
-Gofalu am eraill

¹Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.