Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Anallu rhywiol

  • Anallu Rhywiol neu Drafferthion Cael Codiad (ED) yw’r enwau ar y sefyllfa pan fydd dyn yn methu â chael codiad, neu gynnal codiad, ar gyfer rhyw
  • Gall problemau corfforol neu seicolegol ei achosi
  • Ymhlith y pethau corfforol a allai ei achosi mae diabetes, problemau â’r thyroid, pwysau gwaed uchel, smygu’n drwm a rhai meddyginiaethau
  • Ymhlith y pethau seicolegol a allai ei achosi mae iselder, stres, pryderon ynglyn â pherthnasoedd neu bryderon rhywiol fel pryder ynglyn â defnyddio condom
  • I leihau’r risg o ED, ceisiwch osgoi smygu a goryfed, gofalu bod â diet iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
  • Os yw’ch rhesymau yn rhai seicolegol, ceisiwch siarad â’ch partner neu gwnsler rhyw
  • Peidiwch â theimlo embaras – mae ED yn effeithio’n gyson ar dros 5 miliwn o ddynion yn y DU, felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae yna ffyrdd o drin y broblem
  • Mae yna driniaethau ar gael gan gynnwys pympiau gwactod, mewnblaniadau i’r pidyn, therapi pelenni mewnwrethrol ac, yn fwy diweddar, meddyginiaeth i’w chymryd trwy’r geg

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.