Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Bronnau

Datblygiad y bronnau a’r tethau


Bydd y bronnau’n dechrau datblygu yn ystod y glasoed (fel arfer rhwng 8 ac 16 oed) ac ni fyddan nhw’n gorffen tyfu tan fyddwch chi’n 21 oed o leiaf
Bydd bronnau pawb yn tyfu ar wahanol gyflymderau ac maen nhw o bob lliw a llun
Nid yw’n anarferol cael un fron sy’n fwy na’r llall. Byddan nhw’n dod yn debycach wrth ichi fynd yn hyn, ond nid oes unrhyw ddwy fron sydd yn union yr un fath, felly peidiwch â phoeni os nad yw’ch rhai chi yn edrych yr un fath – mae hynny’n normal
Gall eich hanes teuluol, eich oed a’ch pwysau ddylanwadu ar faint eich bronnau
Wrth brynu bra, i gael gwybod pa faint sy’n iawn i chi, gallwch chi geisio mynd i siop sy’n cynnig gwasanaeth mesur rhad ac am ddim, fel eich bod chi’n gallu cael y bra sy’n iawn i chi. Fe allech chi ystyried mynd â’ch rhiant neu’ch gwarcheidwad neu ffrind gyda chi os ydych chi am gael help i ddewis neu os ydych chi’n teimlo’n nerfus ynglyn â mynd
Pan fydd merched yn feichiog neu ar ôl cael plentyn, bydd y bronnau’n dechrau cynhyrchu llaeth ar gyfer bwydo ar y fron
Mae tethau o bob lliw a llun i’w cael hefyd. Bach, mawr, tywyll neu olau, yn mynd ar i mewn neu ar i allan - maen nhw i gyd yn hollol normal

Newidiadau yn y bronnau ac archwilio’ch bronnau eich hun


Bydd bron i 70% o ferched yn cael poen yn eu bronnau ryw adeg yn eu bywydau, ac fel arfer cylchred y mislif sy’n gyfrifol am hyn, pan fydd eich bronnau’n tueddu i chwyddo. Os byddwch chi’n cael poen difrifol yn eich bronnau, neu boen sy’n para am hir, ewch i weld eich Meddyg Teulu
Mae’n beth cyffredin i ferched ddatblygu marciau coch ar eu bronnau wrth iddyn nhw dyfu. Fe ddaw y rhain yn llai amlwg dros amser, gan droi yn wyn
Mae’n bwysig iawn archwilio eich bronnau, a dylech chi wneud hyn o leiaf unwaith y mis, a gorau oll os yw hynny yn ystod yr wythnos ar ôl i'ch mislif ddod i ben, pan fydd y bronnau’n llai tyner. Gall eich Meddyg Teulu eich cynghori ar y ffordd orau o archwilio eich hun, neu gallwch chi fynd i’r gwefannau isod i gael mwy o gyngor
Bydd archwilio’r bronnau yn helpu i sylwi yn fuan ar unrhyw abnormaleddau yn y fron, fel lympiau neu newidiadau eraill
Argymhellir yn gryf bod merched 20 oed a hyn yn archwilio’u bronnau
Prin iawn y bydd lympiau yn y fron yn ystod y glasoed yn rhywbeth i boeni amdano, ond fe ddylech chi fynd i weld eich Meddyg Teulu beth bynnag
Pan fyddwch chi’n archwilio’ch bronnau, mae’n bwysig edrych am newidiadau, fel
Newid yn ei siâp (y croen yn cael ei dynnu neu chwydd sydd i’w weld)
Newidiadau yn y deth (yn tynnu ar i mewn)
Chwydd yn y gesail
Lympiau neu dewychu
Os ydych chi’n pryderu ynglyn ag unrhyw newidiadau yn eich bronnau, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n mynd i weld eich Meddyg Teulu cyn gynted â phosib. Mae’r rhan fwyaf o lympiau yn y bronnau yn ddiniwed, ond mae datgeliad cynnar yn hanfodol yn achos canser y fron, felly trefnwch apwyntiad cyn gynted ag y gallwch

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.