Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Glasoed
- Y glasoed yw’r enw ar y cyfnod pan fydd eich corff yn newid o fod yn blentyn i fod yn oedolyn ifanc
- Gall fod yn adeg ddryslyd, ond mae’n digwydd i bawb
- Bydd y newid yn digwydd pan fydd y corff yn dechrau cynhyrchu cemegau o’r enw hormonau rhyw
- Bydd pawb yn newid ar eu cyflymder eu hunain, ond fel arfer bydd y glasoed yn dechrau’n gynharach yn achos merched nag yn achos bechgyn
- Gall y glasoed ddechrau ar unrhyw oed o wyth i 16 oed, ond yn gyffredinol fe fydd yn digwydd rhwng naw a 13 oed er nad oes unrhyw ‘oed iawn’
Newidiadau corfforol yn achos merched
Bronnau
- Yr arwydd cyntaf o’r glasoed yn achos merched yw pan fydd eich bronnau'n dechrau tyfu ac y byddwch chi'n sylweddoli bod angen bra arnoch chi
- Mae’n berffaith normal yn ystod y glasoed i fod ag un fron sy’n fwy na’r llall a bydd eu maint yn dod yn fwy tebyg i’w gilydd wrth ichi fynd yn hyn
- Bydd eich bronnau’n cymryd blynyddoedd i gyrraedd eu maint a’u siâp terfynol
Blew
- Bydd blew yn dechrau tyfu rhwng eich coesau, dan eich ceseiliau ac ar eich coesau
Siâp y corff
- Bydd siâp eich corff hefyd yn dechrau newid. Bydd eich cluniau'n mynd yn lletach a byddwch chi'n tyfu'n dalach ac yn drymach. Mae hyn yn rhan normal o’r glasoed
Plorod
- Mae plorod yn gyffredin yn ystod y glasoed ac fel arfer fe fyddan nhw i’w gweld yn llai aml wrth ichi fynd yn hyn. Gwelwch adran Croen a Phlorod i gael mwy o wybodaeth
Y mislif
- Yn ystod y glasoed, fe fydd eich ofarïau hefyd yn dechrau cynhyrchu wyau (ofyliad yw’r enw ar hyn) a bydd merched yn dechrau cylchred eu mislif. Gwelwch adran Mislif i gael mwy o wybodaeth.
Newidiadau corfforol yn achos bechgyn
Blew
- Un o arwyddion cyntaf y glasoed yn achos bechgyn yw blew yn tyfu. Mae hyn yn cynnwys ar y wyneb, dan y geseiliau ac o amgylch bôn y pidyn
Llais
- Bydd bechgyn hefyd yn sylwi ar eu llais yn ‘torri’ wrth iddo ddod yn ddyfnach
Corff
- Mae’n berffaith normal i’r corff ddechrau chwysu mwy yn ystod y glasoed, ac efallai y bydd bechgyn yn sylwi bod angen iddyn nhw ymolchi’n amlach. Efallai y byddwch chi hefyd yn gweld eich bod chi’n cael mwy o blorod. Gwelwch adran Croen a Phlorod ac adran Arogleuon y Corff i gael mwy o wybodaeth.
Y pidyn a’r ceilliau
- Bydd y pidyn yn tyfu’n dewach ac yn hirach yn ystod y glasoed. Mae pawb yn wahanol ac nid oes y fath beth â’r ‘maint iawn’ gan eu bod nhw’n amrywio cymaint. Gwelwch adran Y Pidyn i gael mwy o wybodaeth
- Bydd y ceilliau’n dechrau cynhyrchu miliynau o sbermau bob dydd, a bydd y rhain yn nofio mewn hylif hufennog o’r enw semen. Gwelwch adran Y Ceilliau i gael mwy o wybodaeth
Codiadau a had-dafliad
- Bydd codiadau’n cychwyn yn ystod y glasoed ac yn aml byddan nhw’n digwydd yn y bore neu pan fyddwch chi’n cael eich cyffroi yn rhywiol
- Mae’n achosi i’r pidyn fynd yn stiff a sticio allan o’r corff
- Had-dafliad yw’r enw ar y sefyllfa pan fydd swm bach o semen yn cael ei chwistrellu allan o bidyn ar ei godiad, a gall hyn ddigwydd pan fyddwch chi’n cael rhyw, yn mastwrbeiddio neu hyd yn oed yn eich cwsg
- Os bydd had-dafliad yn digwydd yn eich cwsg heb ichi wybod unrhyw beth amdano, mae hyn yn gwbl naturiol yn ystod y glasoed. ‘Breuddwydion gwlyb’ yw’r enw ar hyn.
Newidiadau emosiynol
- Nid eich corff yw’r unig beth sy’n newid; mae’ch teimladau’n newid hefyd
- Gall y glasoed fod yn amser anodd ac yn aml bydd pobl yn teimlo’n ddrwg eu hwyliau, yn ddig ac yn flinedig
- Efallai y byddwch chi am siarad â rhywun am y newidiadau sy’n digwydd ichi. Rhowch gynnig ar siarad â’ch rhieni neu’ch gwarcheidwaid, ffrind hyn neu hyd yn oed nyrs yr ysgol. Cofiwch eu bod nhw wedi bod trwyddo a’u bod nhw’n gallu rhoi’r cyngor gorau ichi.




