Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw (STIs)

  • Os oes gan rywun haint mae’n bosib ei throsglwyddo i rywun arall drwy ryw faginol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol. Haint a drosglwyddir drwy ryw (STI), neu afiechyd a drosglwyddir drwy ryw (STD) yw’r enw ar y math yma o haint
  • Gall unrhyw un sy’n cael rhyw ddal STI, boed yn ddyn neu’n ddynes, yn heterorywiol neu’n gyfunrywiol
  • Ni fydd pawb sydd ag STI yn dangos symptomau ac weithiau gallan nhw fynd a dod
  • Os ydych chi’n amau bod gennych chi STI, ewch i weld eich Meddyg Teulu ar unwaith. Peidiwch â theimlo embaras; mae’n bwysig iawn i’ch iechyd eich bod chi’n cael triniaeth yn ddi-oed

Mathau o STI

Clamydia

  • Clamydia yw un o’r STIs mwyaf cyffredin, ond os na fydd yn cael ei drin fe all achosi ichi ddod yn anffrwythlon
  • Bacteria mewn semen a hylif o’r fagina sy’n ei achosi, ac felly mae'n hawdd ei drosglwyddo yn ystod gweithgareddau rhywiol
  • Os byddwch chi’n defnyddio condom, fe all hyn olygu y byddwch chi’n llai tebygol o'i ddal
  • Ni fydd o leiaf hanner yr holl ddynion a merched sydd â’r haint yma’n dangos unrhyw symptomau o gwbl. Fodd bynnag, ymhlith y symptomau mae:
    Merched
    • Rhedlif anarferol o’r fagina
    • Poen wrth wneud dwr
    • Gwaedu rhwng mislifoedd
    • Gwaedu ar ôl rhyw neu yn ystod rhyw
    • Poen yng ngwaelod y bol
Dynion

  • Rhedlif gwyn/cymylog a dyfrllyd o’r pidyn
  • Poen wrth wneud dwr
  • Y ceilliau’n chwyddo’n boenus
  • Gall clamydia heintio’r llygaid a’r llwnc hefyd
  • Mae’r driniaeth ar gyfer Clamydia yn syml ac yn effeithiol – dim ond cwrs o dabledi antibiotig
  • Hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw symptomau, mae’n bosib y byddwch chi am gael prawf, yn enwedig os ydych chi wedi cael rhyw heb gondom neu os yw’ch partner wedi dal STI. Ewch i weld eich Meddyg
    Teulu neu’r clinig iechyd rhywiol i gael prawf

Siffilis

  • Mae siffilis yn gymharol brin ond gall achosi problemau iechyd hynod ddifrifol os na fydd yn cael ei drin
    Bacteria sy’n gallu trosglwyddo rhwng dau o bobl trwy gyswllt rhywiol sy’n ei achosi
  • Os byddwch chi’n defnyddio condom, gallwch chi atal yr haint rhag lledaenu trwy ryw faginol, rhyw rhefrol a rhyw geneuol
  • Mae’r symptomau yr un fath i ddynion a merched, ond mae’n hawdd peidio â sylwi arnyn nhw. Yn eu plith mae:
    • Cyfnod 1: bydd un briw neu fwy yn ymddangos ar y corff, fel arfer o amgylch yr organau cenhedlu, yr anws neu’r geg. Mae’r rhain yn heintus iawn
    • Cyfnod 2: brech ddi-boen, tyfiannau fflat fel dafadennau ar yr organau cenhedlu a’r anws, salwch tebyg i’r ffliw, blinder, colli archwaeth a chwarennau wedi chwyddo, darnau gwyn yn y geg a cholli gwallt mewn mannau ar y pen
  • Os bydd yn mynd heb ei drin am flynyddoedd, gall niweidio’r galon, yr ymennydd, y llygaid, yr esgyrn a’r system nerfol. Fe allai fod yn angheuol erbyn bydd wedi cyrraedd y cyfnod yma
  • Ewch i weld eich Meddyg Teulu neu’r clinig iechyd rhywiol i gael prawf
  • Un pigiad antibiotig yw’r driniaeth, neu gwrs o dabledi, fel Penisilin

Hadlif (Gonorrhoea)

  • Mae’r hadlif yn dod yn fwyfwy cyffredin a gall achosi ichi ddod yn anffrwythlon os na fyddwch chi’n ei drin
  • Bacteria sy’n gallu trosglwyddo rhwng dau o bobl yn ystod cyswllt rhywiol sy’n ei achosi
  • Os byddwch chi’n defnyddio condom yn ystod rhyw faginol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol fe fyddwch chi’n llai tebygol o ddal yr haint neu ei ledaenu
  • Mae hi hefyd yn bosib trosglwyddo’r haint o'r organau cenhedlu i’r llygaid ar eich bysedd
  • Ni fydd 10% o ddynion a 50% o ferched sydd â’r haint yma’n dangos unrhyw symptomau
  • Ymhlith y symptomau yn achos merched mae:
    • Rhedlif anarferol o’r fagina – trwchus, dyfrllyd neu felyn/gwyrdd ei liw
    • Poen wrth wneud dwr
    • Poen yng ngwaelod y bol
  • Ymhlith y symptomau yn achos dynion mae:
    • Rhedlif gwyn, melyn neu wyrdd o flaen y pidyn
    • Poen wrth wneud dwr
    • Poen yn y ceilliau
  • Ni fyddwch chi’n gwybod a ydych chi wedi dal yr haint ai peidio heb brawf y mae modd ei wneud yn eich meddygfa leol neu glinig iechyd rhywiol
  • Mae’r driniaeth yn effeithiol iawn, a dyw’n ddim mwy nag un dos o antibiotigau

Dafadennau cenhedlol

  • Dafadennau cenhedlol yw’r STI mwyaf cyffredin
  • Maen nhw’n cael eu hachosi gan firws o’r enw firws papiloma dynol (HPV) ac maen nhw’n cael eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall trwy gyswllt rhywiol
  • Mae yna dros 100 math o HPV a bydd y gwahanol fathau’n effeithio ar wahanol rannau o’r corff, fel y dwylo, y traed neu’r organau cenhedlu.
  • Gallan nhw fod yn weladwy neu’n anweladwy
  • Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl â’r haint yma unrhyw symptomau na dafadennau i'w gweld
  • Bydd dafadennau gweladwy yn amrywio o dyfiannau neu lympiau bach, cigog i lympiau pinc mawr sy’n edrych fel blodfresych. Fel arfer maen nhw’n fach iawn ac yn ddi-boen
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd edrych ar y corff yn ddigon i feddyg neu nyrs weld a yw’r firws gennych chi
  • Mae modd cael gwared â dafadennau cenhedlol trwy baentio cemegyn hylifol arnyn nhw, defnyddio eli arnyn nhw adref, eu rhewi (rhewdriniaeth), eu gwresogi (electroserio), llawdriniaeth neu driniaeth laser

Llau pwbig a chlefyd crafu

Llau pwbig

  • Pryfed mân parasitig sy’n byw mewn blew cedor yw llau pwbig
  • Maen nhw’n felyn-llwyd, tua 2mm o hyd ac maen nhw’n edrych fel crancod
  • Weithiau mae ‘crabs’ yn enw arnyn nhw
  • Yr wyau sy’n ymddangos fel dotiau brownaidd ynghlwm wrth y blew yw’r ‘llau’
  • Mae’n hawdd trosglwyddo llau pwbig rhwng y naill unigolyn a’r llall trwy gyswllt corfforol agos neu weithgarwch rhywiol
  • Mae’n bosib na fydd rhai pobl yn sylwi ar y llau neu'r wyau yn eu blew
  • Ymhlith y symptomau eraill mae:
    • Cosi neu lid yn y rhan o’r corff maen nhw ynddi
    • Tail du powdrog y llau yn eich dillad isaf
    • Wyau brown ar y blew
    • Sbeciau mân o waed ar y croen
  • Bydd edrych am lau yn ddigon i feddyg neu nyrs weld a oes rhai, ac mae modd eu trin ag eli neu siampw

Clefyd crafu

  • Gwiddon bychain parasitig sy’n tyrchu dan y croen ac yn dodwy wyau sy’n achosi clefyd crafu
  • Mae’n hawdd ei drosglwyddo rhwng y naill unigolyn a’r llall trwy gyswllt corfforol agos neu weithgarwch rhywiol
  • Gall y symptomau gynnwys:
    • Ysu difrifol
    • Brech neu smotiau mân sy’n goslyd
    • Llid neu groen cignoeth
  • Mae’n amhosib gweld y gwiddon â’r llygad noeth
  • Yn aml, bydd meddyg neu nyrs yn gallu dweud a oes gennych chi glefyd crafu trwy edrych ar eich croen a dim mwy, ac mae’n hawdd ei drin â hufen neu eli

Herpes Cenhedlol

  • Firws heintus dros ben sy’n cael ei ledaenu drwy gyswllt rhywiol sy’n ei achosi
  • Gellir ei drosglwyddo’n hawdd o'r naill unigolyn i'r llall yn ystod rhyw gyda rhywun y mae herpes cenhedlol yn torri allan arnyn nhw ar y pryd, neu drwy gyswllt croen-i-groen pan mae yna ddolur
  • Gall y symptomau gynnwys:
    • Swigod neu ddoluriau allanol neu fewnol o amgylch yr organau cenhedlu neu’r anws, a fydd yn byrstio’n gyflym gan adael doluriau bach coch
    • Pigo, goglais neu ysu ger yr organau cenhedlu neu’r anws
    • Symptomau tebyg i’r ffliw, fel twymyn, blinder, chwarennau wedi chwyddo, poenau
    • Poen wrth wneud dwr
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd meddyg neu nyrs yn gallu dweud a oes gennych chi herpes drwy edrych, ond efallai y byddan nhw’n defnyddio swab i gasglu sampl o hylif hefyd
  • Mae triniaeth yn golygu cymryd tabledi gwrthfirol

HIV ac AIDS

  • Mae HIV yn sefyll am Human Immunodeficiency Virus a haint feirol ydyw sy’n ymosod ar system imiwnedd y corff
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd angen help cyffuriau gwrth-HIV ar y system imiwnedd i gadw’r firws dan reolaeth, ond ni allan nhw gael gwared â’r firws yn llwyr
  • Mae AIDS yn sefyll am Acquired Immune Deficiency Syndrome ond mae HIV datblygedig yn enw arall arno. Mae’n disgrifio’r adeg pan na fydd system imiwnedd rhywun yn gallu ymdopi mwyach oherwydd y difrod mae HIV wedi’i achosi
  • Ni fydd pobl yn marw o AIDS; byddan nhw’n marw o’r canserau, niwmonia a chyflyrau eraill mae’r corff yn methu ag ymladd yn eu herbyn oherwydd ei system imiwnedd wan
  • Mae modd trosglwyddo HIV o lif gwaed un unigolyn i lif gwaed un arall mewn sawl ffordd:
    • Semen a hylif semenol sy’n cael ei ryddhau cyn had-dafliad
    • Hylifau o’r fagina, gan gynnwys hylifau mislifol (y mislif)
    • Llaeth o’r fron
    • Gwaed
  • Mae yna ffyrdd o leddfu’r risg:
    • Defnyddiwch gondom bob amser yn ystod gweithgarwch rhywiol a chyfathrach rywiol. Bach yw’r risg yn ystod rhyw geneuol, ond mae risg yn dal i fod yno
    • Dylai pobl sy’n chwistrellu cyffuriau i’w gwythiennau ddefnyddio nodwyddau ffres bob amser a pheidio byth â rhannu offer cyffuriau gydag unrhyw un arall
  • Ni allwch chi ddal HIV trwy gyffwrdd â rhywun heintus neu drwy rannu cwpanau, gwydrau a chyllyll a ffyrc, tyweli neu seddau toiled
  • Mae prawf HIV yn dangos a oes haint HIV ar rywun. Nid prawf AIDS ydyw. Mae’n gweithio trwy edrych am y gwrthgyrff y mae corff rhywun heintus yn eu creu a dyw’n ddim mwy na phrawf gwaed syml
  • Mae’n bosib na fydd cael prawf llai na thri mis ar ôl dyddiad posib dal yr haint yn rhoi canlyniad manwl-gywir gan na fydd digon o wrthgyrff wedi’u cynhyrchu o bosib
  • Nid oes iachâd i HIV ar hyn o bryd

Ni fydd y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir trwy ryw yn dangos unrhyw symptomau o gwbl ond gallan nhw niweidio’ch iechyd yn ddifrifol. Os ydych chi’n dioddef o unrhyw symptomau neu os ydych chi wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom, mae’n bwysig eich bod chi’n mynd i weld eich Meddyg Teulu, y clinig cynllunio teulu neu’r clinig iechyd rhywiol cyn gynted â phosibl i gael prawf a dechrau unrhyw driniaeth angenrheidiol.
Mae’r meddygon a’r nyrsys wedi gwneud y profion peth wmbreth o weithiau o’r blaen, felly peidiwch â theimlo embaras. Ni fyddan nhw’n dweud wrth eich rhieni neu’ch gwarcheidwad ac mae’r profion yn gyfrinachol.

Os ydych chi’n dioddef o STI, cysylltwch â’r partneriaid rydych chi wedi’u cael yn y gorffennol i roi gwybod iddyn nhw, fel y gallan nhw gael prawf hefyd.

Efallai y byddwch chi’n meddwl y byddwch chi’n teimlo embaras, ond fe allai cael prawf arbed eich bywyd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.