Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Y Ceilliau
- Yn ogystal â’r pidyn, mae organau cenhedlu dyn yn cynnwys dwy gaill, sy’n hongian mewn sach o groen o’r enw ceillgwd
- Y ceilliau sy’n cynhyrchu’r sberm a ddefnyddir i atgenhedlu ac mae tiwb hir (yr wrethra) yn eu cysylltu nhw â’r pidyn. Y tiwb yma sydd hefyd yn cario wrin
- Bydd un gaill fel arfer yn hongian yn is na’r un arall i’w gwneud yn haws symud
- Mae’r ceilliau’n hongian yn y ceillgwd, sy’n hongian y tu allan i’r corff er mwyn cadw’r sberm rhag gorboethi. Gall gwres ladd sberm.
Canser y ceilliau
- Mae canser y ceilliau’n effeithio ar ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed yn bennaf, ond mae modd cael gwared yn llwyr ar bron i 100 y cant o bob canser y ceilliau os bydd yn cael ei ddal yn ddigon cynnar
- Ymhlith arwyddion rhybudd canser y ceilliau mae poen mud yn y ceilliau, lwmp bach caled, di-boen, un gaill yn fwy neu’n drymach na’r llall a gwaed yn dod o’r pidyn
- Dylai dynion archwilio’u ceilliau bob mis i weld a yw siâp, maint neu bwysau y naill gaill neu’r llall wedi newid, ac i weld a oes unrhyw lympiau.
- Mae’n haws gwneud hyn yn effeithiol ar eich sefyll. Peidiwch â theimlo embaras – ewch i weld eich meddyg ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw beth anarferol.




