Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Y Llindag (thrush)
- Mae’r llindag yn haint gyffredin sy’n cael ei hachosi gan furum o’r enw Candida Albicans sy’n byw ar y croen, yn y geg, y perfedd a’r fagina
- Mae’r burum yn ddiniwed ond weithiau bydd newidiadau yn y corff yn achosi i'r burum dyfu’n gyflym can achosi’r llindag
- Gall y llindag effeithio ar ddynion a merched ger yr organau cenhedlu neu yn y geg
- Ymhlith y symptomau yn achos merched mae:
- Tostrwydd, cochni ac ysu o amgylch y fagina neu’r anws
- Rhedlif trwchus, gwyn o’r fagina (mae’n edrych fel caws colfran, ac yn gwyntio fel burum)
- Poen wrth gael rhyw neu wneud dwr
- Ymhlith y symptomau yn achos dynion mae:
- Llosgi, ysu a chochni dan y blaengroen neu ar flaen y pidyn
- Rhedlif trwchus, ag oglau caws arno dan y blaengroen
- Problemau’n tynnu’r blaengroen yn ôl
- Gall y canlynol ei achosi:
- Gwisgo trowsus tynn neu ddillad isaf neilon
- Cynhyrchion a allai achosi llid, fel diaroglyddion i’r fagina
- Beichiogrwydd
- Cymryd rhai antibiotigau penodol
- Diabetes
- Salwch
- Gall y llindag ymddangos yn y geg hefyd, gan achosi tostrwydd, cochni ac weithiau rhedlif gwyn
- Bydd o leiaf tair ymhob pedair merch yn dioddef o’r llindag ar ryw adeg yn eu bywydau
- Nid yw’r llindag yn ddifrifol ac mae modd prynu triniaeth ar ei gyfer dros y cownter mewn siopau fferyllwyr.
- Os bydd y broblem yn parhau, ewch i weld eich meddyg.




