Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Bwydlysyddiaeth a Feganiaid
- Mae yna wahanol fathau o ddietau llysfwytäol gan ddibynnu ar ba fwydydd sydd ddim yn cael eu bwyta. Bydd rhai pobl yn gwneud heb gig coch yn unig. Bydd eraill yn gwneud heb bob cig ond byddan nhw’n bwyta pysgod; bydd rhai yn gwneud heb wyau ond byddan nhw’n cymryd llaeth a chynhyrchion llaeth.
- Ni fydd fegan yn bwyta unrhyw beth sy’n dod o anifail felly dim ond ffrwythau, llysiau, grawn, cnau, hadau, grawnfwydydd, ffa a chorbys ac olew llysiau bydd yn eu bwyta. Mae’n bosib y bydd hefyd yn osgoi cynhyrchion anifeiliaid nad ydyn nhw’n fwyd, fel lledr.
- Mae yna nifer o resymau pam y bydd pobl yn dod yn llysieuwyr neu’n feganiaid. I rai, y rheswm yw nad ydyn nhw’n credu mewn lladd anifeiliaid i gael cig neu fanteisio ar anifeiliaid i gael eu cynnyrch, fel llaeth ac wyau. I eraill, y rheswm yw nad ydyn nhw’n hoffi blas cig.
- Gall fod yn hollol iach bwyta diet llysfwytäol neu feganaidd cyn belled â’ch bod chi’n bwyta diet cytbwys (gwelwch adran Maetheg CLIC) sy’n cynnwys pob un o’r grwpiau bwydydd. Os byddwch chi’n penderfynu eich bod chi am fwyta diet llysfwytäol neu feganaidd, mae’n bwysig dysgu pa fwydydd llysfwytäol sy’n cynnwys y grwpiau bwydydd hanfodol, a sicrhau eich bod chi’n eu cynnwys yn eich prydau. Os byddwch chi’n gadael rhai pethau penodol allan o’ch diet fe allai hyn achosi diffygion yn eich corff e.e. gall gadael cynhyrchion llaeth allan achosi diffyg calsiwm ac efallai y bydd angen ichi gymryd atchwanegiad. Mae cig yn ffynhonnell protein, felly mae angen ichi gael protein o ffynonellau eraill fel cnau, hadau, ffa, pys a chorbys, grawnfwydydd a soia os ydych chi’n fegan, a chynhyrchion llaeth, fel llaeth, caws ac wyau os ydych chi’n llysieuwr sy’n bwyta cynhyrchion llaeth. Hefyd, fe fydd angen ichi wneud yn siwr eich bod chi’n cael y fitaminau a’r mwynau iawn e.e. mae’r fitamin c sydd mewn ffrwythau sitrws ffres yn helpu i amsugno haearn o lysiau deiliog gwyrdd. Mae’n rhaid i bob diet cytbwys gynnwys ffeibr ac 1.2 litr o ddwr bob dydd.




