Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Gordewdra

Mae bod yn ordew yn golygu y gallai pwysau rhywun beryglu ei iechyd. Gall pobl ddod yn ordew yn raddol wrth iddyn nhw fwyta mwy o galorïau nag mae’r ymarfer corff maen nhw’n ei wneud yn eu treulio.

Mae yna rai cyflyrau meddygol sy'n achosi i bobl ennill pwysau; os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n ennill pwysau heb unrhyw reswm amlwg mae’n beth doeth trafod eich pryderon â'ch meddyg teulu a fydd yn rhoi cyngor ichi ar golli pwysau waeth beth fo’r rheswm.

Bydd eich Mynegai Màs y Corff (BMI) yn rhoi syniad ichi a ydych chi’n rhy drwm ai peidio.

Cyfrifo BMI

  • Mesur eich taldra mewn metrau a’i luosi â'i hun = X
  • Mesur eich pwysau mewn cilogramau = Y
  • Rhannu Y â X = BMI

Er enghraifft:

Yn achos rhywun sy’n pwyso 80kg ac sy’n 1.7m o daldra:

  • 1.7 x 1.7 = 2.89 (X)
  • 80 (Y) rhannu â 2.89 = BMI 27.68 – mae hyn yn y categori rhy drwm.

Mae’r canlynol yn nodi beth sy’n bwysau iach yn ôl BMI:

  • BMI llai nag 20 rhy ysgafn
  • BMI 20 i 25 pwysau iach
  • BMI 25 i 30 rhy drwm
  • BMI 30+ gordew

Bydd bwyta diet iach, cytbwys a gwneud ymarfer corff yn helpu i leihau eich pwysau ac i gynnal pwysau iach. Darllenwch adrannau CLIC ar Maetheg a Gweithgarwch Corfforol. Nid yw dietau ffasiynol a dietau carlam yn ffordd synhwyrol o golli pwysau. Bydd deall y grwpiau bwydydd y mae angen ichi eu cynnwys yn eich diet a’r dognau iawn o fwydydd i’w bwyta yn eich helpu i newid i ddiet y byddwch chi’n gallu ei ddilyn am weddill eich bywyd. Ni fydd yn realistig penderfynu na fyddwch chi'n bwyta sglodion, siocled a theisennau byth eto. Fe fydd bwyta llai o’r bwydydd yma a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd) yn eich diet dyddiol, a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd (e.e. cerdded 30 munud y dydd) yn fwy effeithiol i’ch helpu i golli pwysau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.