Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Gweithgarwch Corfforol
- Mae ymchwil wedi dangos bod angen i bob un ohonon ni ymarfer corff yn rheolaidd. Mae’r rhan fwyaf o’r ffynonellau cyngor yn datgan y dylen ni geisio gwneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol gweddol ddwys o leiaf 5 niwrnod yr wythnos.
- Bydd ymarfer corff yn llosgi calorïau sydd dros ben, ac yn cynyddu lefelau egni a ffitrwydd, a bydd ei gyfuno â diet iach yn gwneud inni deimlo’n dda amdanom ni’n hunain.
- Ymhlith buddiannau eraill gweithgarwch corfforol mae lleihau stres, lleihau’r risg o rai afiechydon penodol, fel canser a chlefyd y galon, a phan fyddwn ni’n gwneud ymarfer corff pan rydyn ni’n ifanc fe fydd yn helpu i sicrhau ein bod ni’n cadw’n weithgar ac yn annibynnol a medru symud wrth inni heneiddio.
- Gall ymarfer corff gynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau. Nid oes yn rhaid iddo fod yn ddiflas ac nid yw’n golygu bod yn rhaid ichi ymuno â gym neu glwb iechyd. Bydd cerdded neu seiclo yn lle mynd ar y bws neu yn y car pan fyddwch chi’n mynd i weld ffrind neu’n mynd i siopa, a dringo’r staer yn lle mynd mewn lifft, yn ychwanegu at lefel eich ffitrwydd pan fyddwch chi'n eu cynnwys yn eich gweithgareddau bob dydd.
- Os ydych chi am ddysgu mwy am weithgareddau sydd wedi’u trefnu, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol lle gallen nhw fod yn trefnu gweithgareddau fel nofio, erobeg, cicfocsio, codi pwysau ac ioga. Un fantais arall i ymuno â grwp neu glwb yw y bydd yn rhoi cyfle ichi wneud ffrindiau newydd. Hefyd, mae gweithgareddau hwyl fel dawnsio, chwarae pêl-droed a hyd yn oed bowlio deg oll yn weithgareddau a fydd yn helpu i’ch cadw yn heini yn hytrach nag eistedd o flaen y teledu neu'ch sgrïn cyfrifiadur.




