Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Maetheg
Er mwyn cadw’n iach a mynd ati i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd, mae angen ichi wybod am bwysigrwydd bwyta’r bwydydd iawn. Mae modd rhoi bwyd mewn gwahanol grwpiau ac mae pob grwp yn darparu maetholion sy’n hanfodol i’ch corff dyfu, i gadw’n heini ac i wrthsefyll germau. Dyma’r grwpiau bwyd:
- Proteinau – Bwydydd yw’r rhain sy’n helpu i gryfhau’r corff ac maen nhw i’w cael mewn cig coch a gwyn, pysgod, cnau, soia, ffa, wyau a bwydydd llaeth fel llaeth, caws a iogwrt. Mae maethegwyr yn cynghori pobl ifanc i fwyta 2 i 3 dogn o’r grwp yma bob dydd.
- Carbohydradau – Bwydydd yw’r rhain sy’n darparu egni ac maen nhw i’w cael mewn bara, tatws, grawnfwydydd, reis a phasta. Dylai pobl ifanc anelu at fwyta tua chwe dogn o’r grwp yma bob dydd, ac maen nhw’n cynnwys y mathau ffeibr-uchel fel reis brown a bara gwenith cyflawn.
- Brasterau – Bydd gormod o fraster, yn enwedig brasterau dirlawn, yn achosi ennill pwysau, ac yn effeithio ar eich calon a’ch dannedd, ond mae’n hanfodol cynnwys rhywfaint o fraster yn eich diet. Mae brasterau annirlawn, fel y rheiny mewn pysgod olewog fel eog, yn hanfodol mewn diet iach, cytbwys. Argymhellir na ddylai pobl ifanc fwyta mwy na thri dogn o fwydydd brasterog neu siwgrog bob dydd. Mae’r bwydydd yn y grwp yma’n cynnwys creision, siocled, teisennau a diodydd byrlymog.
- Fitaminau a mwynau – Dim ond symiau bychain o’r bwydydd yn y grwp yma sydd eu hangen, ond maen nhw’n hanfodol ar gyfer brwydro yn erbyn rhai afiechydon penodol a sicrhau dannedd, esgyrn, croen ac ati iach. Mae fitaminau i’w cael mewn amrywiaeth eang o fwydydd ond y farn erbyn hyn yw ei bod hi'n bwysig iawn bod pawb yn bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys suddion ffrwythau a dylai gynnwys llysiau deiliog gwyrdd hefyd. Mae cynhyrchion llaeth yn ffynhonnell dda ar gyfer y calsiwm sy’n angenrheidiol ar gyfer esgyrn iach; ac mae cig coch a llysiau gwyrdd, yn ogystal â rhai grawnfwydydd, yn cynnwys yr haearn sy’n angenrheidiol i atal anemia.
- Ffeibr – Mae’r grwp bwydydd yma’n helpu i gadw’r system dreulio yn gweithio’n iawn. Mae ffeibr i’w gael mewn ffrwythau a llysiau, a blawd, bara a phasta gwenith cyflawn.
- Dwr – Mae hwn yn hanfodol i gadw ein cyrff yn gweithio'n iawn. Yn hinsawdd y DU fe ddylen ni yfed 1.2 litr o hylif bob dydd. Mae hyn yn atal ein corff rhag sychu, ac mewn hinsoddau poethach mae angen inni yfed mwy. Bydd peth hylif yn dod o’r bwyd y byddwn ni’n ei fwyta.
Bydd dewis bwydydd o bob un o’r grwpiau yma yn y meintiau cywir yn golygu y bydd gennych chi ddiet iach, ac fe ddylai eich amddiffyn rhag afiechyd a salwch.
Mae’r gwefannau canlynol yn rhoi mwy o fanylion am faetheg a diet.




