Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng

Canllaw Argyfyngau ar gyfer Person Ifanc

Er ein bod yn gobeithio na wnaiff o byth ddigwydd, fe allai y bydd yna amser pan fyddwch chi’n gysylltiedig ag argyfwng. Dyma sefyllfa sy’n risg i’ch iechyd, eich bywyd, eich cartref neu’r ardal o’ch cwmpas chi neu sy’n eu rhoi mewn perygl. Gall y rhain gynnwys:

  • Tân
  • Llifogydd
  • Tywydd Eithafol

Dyma beth gwybodaeth ar yr hyn ddylech chi ei wneud os byddwch chi mewn sefyllfa o argyfwng o gwbl.

Beth ddylwn i ei wneud mewn argyfwng?

  • Aros yn dawel
  • Mynd i ddiogelwch
  • Galw 999 os bydd arnoch angen help gan y Gwasanaethau Brys
  • Rhowch wybod ble’r ydych chi i’ch teulu a’ch ffrindiau
  • Ewch i Ganolfan Orffwys os oes un wedi ei sefydlu
  • Os yn bosib cadwch eich Ffôn Symudol efo chi
  • Ewch allan o’ch tŷ os bydd angen, neu os bydd y Gwasanaethau Brys yn gofyn i chi
  • Ystyriwch eich anifeiliaid anwes

Mae yna nifer o wasanaethau eraill a fydd yn gallu eich helpu hefyd. Cliciwch yma i ffeindio pwy ydyn nhw.

Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud hefyd i sicrhau eich bod yn barod cyn bod yna argyfwng.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50