Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Smygu ac Alcohol

Mae tybaco ac alcohol yn sylweddau cyfreithiol a ddefnyddir gan filoedd o bobl bob dydd, ond mae’r ddau sylwedd hwn yn cael effeithiau difrifol iawn ar eich iechyd.

Ysmygu ar hyn o bryd yw’r un achos mwyaf am farwolaethau o ganser y gellir eu hatal yn y DU. Bob blwyddyn mae oddeutu 32,000 o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint yn unig. Po fwyaf yr ydych yn ei ysmygu, po fwyaf o berygl yr ydych ynddo. Gall dim ond un neu ddwy sigarét y dydd arwain at ganser, gyda chlefyd yr ysgyfaint a’r galon yn gyffredin hefyd ymysg ysmygwyr.

Gall ysmygu hefyd effeithio ar eich ymddangosiad. Ar wahân i’r arogleuon drwg sy’n glynu wrth eich gwallt a’ch dillad, gall croen ysmygwyr heneiddio yn gyflymach, mae’n teneuo’r croen ac yn achosi crychau. Efallai y bydd eich bysedd yn troi yn felyn yn ogystal â’ch dannedd, ac mae gan ysmygwyr system imiwnedd wannach, sy’n arwain at fwy o beswch ac annwyd nag a geir ymysg rhai sydd ddim yn ysmygu.

Mae manteision rhoi’r gorau iddi yn enfawr, byddwch yn cwtogi ar eich risg o ganser a chlefydau eraill, bydd yn haws i chi anadlu a bydd eich synnwyr o flasu ac arogli yn gwella. Bydd gennych hefyd lawer mwy o arian yn eich poced – mae ysmygu pecyn o 10 o sigarennau’r dydd yn costio oddeutu £1,150 y flwyddyn!

Nid yw yfed alcohol yn gymedrol yn debygol o fod yn niweidiol; mewn gwirionedd awgryma rhai astudiaethau fod yfed gwydraid o win y dydd yn dod â rhai manteision i iechyd. Ond mae yfed cyfansymiau mawr o alcohol ar y tro (goryfed) neu yn rheolaidd yn gallu gwneud niwed difrifol i’ch iechyd. Mae cymaint â 33,000 o bobl yn y DU yn marw o achosion yn gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn. Mae’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed yn drwm yn cynnwys difrod i’r iau a chlefyd yr iau, strociau, clefyd y galon, difrod i’r arennau a bod mewn damweiniau.

Mae alcohol yn cwtogi ar swildod a gall wneud i bobl deimlo’n fwy cymdeithasol ac mae’n effeithio ar eich barn. Mae hyn yn golygu pan ydych wedi meddwi y gallech wneud pethau na fyddech fel arfer yn eu gwneud ac y byddech yn gresynu amdanynt yn nes ymlaen.

Mae’n anghyfreithlon prynu alcohol a sigarennau os ydych o dan 18 oed yn y DU.

Gall y gwefannau canlynol eich helpu i ateb eich cwestiynau a’ch pryderon. Gallwch hefyd gysylltu â llinellau cymorth, a gofyn am gymorth a chyngor proffesiynol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.