Gwybodaeth » Tai » Byw yn eich cartref newydd a'i gynnal » Biliau
- Mae symud mewn i dŷ newydd yn ymrwymiad ariannol mawr. Yn ogystal â thalu'ch rhent neu'ch morgais, rhaid i chi ystyried y biliau y mae'n rhaid i chi eu talu - a chynllunio amdanyn nhw
- P'un ai eich bod yn rhentu neu'n berchen ar eich tŷ eich hunan, bydd rhaid i chi dalu biliau:
- Nwy
- Trydan
- Dŵr
- Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu:
- Treth cyngor
- Biliau ffôn neu ryngrwyd
- Trwydded deledu
- Pan fyddwch yn symud mewn, mae'n bwysig nodi'r mesuryddion nwy a thrydan a chysylltu â'ch holl gyflenwyr pŵer i roi gwybod iddynt eich bod wedi symud mewn a rhoi'ch manylion iddynt. Bydd hyn yn sicrhau na fyddwch yn derbyn biliau pobl eraill
- Mae'n werth chweil gofyn i gyflenwyr am amcangyfrif o'ch bil misol, chwarterol neu flynyddol (yn dibynnu ar sut rydych yn talu) fel y gallwch gynnwys hwn yn eich cyllideb
- Os ydych yn byw gyda rhywun, sicrhewch fod pob un o'ch enwau ar y biliau. Bydd hyn yn golygu eich bod i gyd yn gyfrifol am eu talu nhw
- Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu treth cyngor. Mae'r swm y bydd rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar le rydych yn byw a pha faint rydych yn ei ennill. Mae hwn fel arfer yn gost fisol felly darganfyddwch y gost ymlaen llaw
- Os oes gennych linell ffôn, y rhyngrwyd neu deledu, bydd biliau ychwanegol i'w talu. Gellir talu am linell ffôn a'r rhyngrwyd gyda'i gilydd am un swm misol neu dalu amdanynt yn unigol wrth i chi eu defnyddio
- Os ydych yn berchen ar deledu, rhaid i chi brynu trwydded deledu. Gallwch gael ffurflen gais o Swyddfa'r Post. Gellir talu swm untro neu wneud taliadau llai dros y flwyddyn, ond os nag oes trwydded gennych, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu dirwy fawr
Lleihau eich biliau ynni
- Os credwch fod eich biliau ynni (nwy, trydan a dŵr) yn rhy ddrud, mae modd lleihau eich biliau trwy arbed ynni:
- Gwnewch yn siŵr fod eich drysau a'ch ffenestri wedi'u selio'n iawn i atal drafftiau a pheidio â gwastraffu gwres
- Ewch yn y gawod yn hytrach na'r bath i arbed dŵr
- Diffoddwch y golau wrth i chi adael ystafell
- Caewch y llenni yn y cyfnos i gadw gwres yn yr ystafell
- Sicrhewch fod y tapiau wedi'u cau yn gywir. Gall tapiau sy'n diferu godi'r bil dŵr llawer
- Diffoddwch y tap wrth frwsio'ch dannedd
- Peidiwch â chadw offer trydanol mewn 'modd segur' ('stand-by') pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Defnyddiwch fylbiau arbed ynni yn hytrach na fylbiau arferol
- Peidiwch â llenwi eich tegell bob tro rydych am wneud paned o de. Rhowch y dŵr sydd ei angen arnoch ynddo yn unig
- Dadrewch eich oergell yn gyson fel y bydd yn gweithio'n fwy effeithiol a rhatach
- Newidiwch i gyflenwr nwy neu drydan rhatach
- Bydd yr uchod nid yn unig yn arbed arian, ond yn helpu i arbed yr amgylchedd
- Wrth ddewis neu newid cyflenwyr egni neu wasanaethau, ymchwiliwch i bob cwmni i gael y fargen orau, ond byddwch yn sicr o' r manylion cyn llofnodi unrhyw beth!
- Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu'ch biliau, peidiwch â phryderu. Cymerwch gyngor o'n hadran DYLED




