Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Byw yn eich cartref newydd a'i gynnal » DIY (trwsio'r ty heb gymorth)

  • Mae angen gofal a sylw parhaol ar eich tŷ er mwyn ei gadw'n lân, taclus a diogel
  • P'un ai eich bod yn berchen ar eich tŷ neu'n ei rentu, chi sy'n gyfrifol am ei gynnal. Yn wir, os yw'ch landlord yn credu nad ydych yn cadw'r tŷ'n iawn, gall ofyn i chi adael eich tenantiaeth
  • Fel canllaw, dyma rai awgrymiadau o'r pethau y dylech eu gwneud yn eich cartref
  • Bob dydd, dylech:
    • Olchi platiau, llestri a phadelli brwnt, a'u cadw
    • Cadw eich cegin a'r man bwyta'n lân a thaclus, ac wedi'u diheintio
    • Hongian eich dillad a thacluso wrth i chi fynd yn eich blaen
  • Bob wythnos, dylech:
    • Sugno llwch o'r carpedi neu olchi lloriau teils
    • Glanhau a diheintio toiledau a golchi basnau ymolchi
    • Glanhau cawodydd neu faddonau
    • Golchi eich duvet a'ch casys gobennydd
    • Tynnu llwch o arwynebeddau neu'u glanhau
  • Peidiwch â gadael i ddyletswyddau'r tŷ gynyddu. Dylech lanhau a thacluso wrth i fynd yn eich blaen er mwyn cadw eich tŷ mewn cyflwr da
  • Os ydych yn byw gyda phobl eraill, lluniwch amserlen glanhau fel y bydd y dyletswyddau wedi'u rhannu rhwng pawb ac nid yw unrhyw beth yn cael ei anghofio
  • Cofiwch, os ydych yn berchen ar anifail anwes, rhaid ystyried y glanhau a chynhaliaeth ychwanegol sy'n gysylltiedig â hyn a bod yn barod i ymdrin â rhagor o wallt a rhai damweiniau
  • Peidiwch ag anghofio am y tu allan i'ch cartref. Mae angen yr un faint o ofal ar erddi ag sydd ei angen ar dai, felly cadwch yr ardd yn dwt a thaclus a heb sbwriel ynddi

DIY

  • Mae DIY ('Do It Yourself') bellach yn boblogaidd iawn. Gall talu am berson proffesiynol i wneud tasgau yn y tŷ fod yn ddrud felly mae llawer o bobl yn dewis gwneud y tasgau eu hunain
  • Gall DIY gynnwys unrhyw beth o godi silff neu addurno ystafell i blymio, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth rydych yn ei wneud cyn cychwyn. Gall gwaith DIY gwael fod yn beryglus a drud. Bob blwyddyn mae tua 70 o bobl yn marw o ganlyniad i ddamweiniau DIY ac mae mwy na 100,000 yn cael eu hanafu'n ddifrifol
  • Ni waeth pa mor fach yw'r dasg, byddwch yn ofalus a sicrhewch eich bod yn ddiogel a'ch bod yn gwneud y dasg yn gywir
  • Os nad ydych yn siŵr, ceisiwch gyngor person proffesiynol. Peidiwch â chychwyn tasg os nad ydych yn hollol sicr o'r hyn rydych yn ei wneud
  • Dyma rai awgrymiadau ar DIY
    • Gwisgwch ddillad amddiffynnol fel gogls, menig neu fwgwd llwch wrth wneud tasgau fel paentio, llifo neu waith gyda gwydr
    • Wrth ddefnyddio cynnyrch sy'n cynhyrchu mygdarth neu lwch, gwnewch yn siŵr fod digon o wynt yn dod mewn i'r ystafell a pheidiwch byth ag ysmygu yn yr ardal
    • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r offer cywir bob amser. Peidiwch â defnyddio offer anaddas. Trwy ddefnyddio'r offer cywir bydd y dasg yn cael ei chyflawni'n fwy effeithiol ac yn ddiogel
    • Wrth ddefnyddio ysgol, sicrhewch ei bod yn sefydlog a gofynnwch i rywun i'w chadw'n wastad pan rydych yn ei defnyddio, os yn bosib
    • Wrth ddefnyddio siswrn neu gyllyll, torrwch i ffwrdd o'ch corff
    • Os ydych yn trwsio teclyn trydanol, diffoddwch ef cyn i chi gychwyn a chymerwch y plwg neu'r ffiws allan. Mae hi hefyd o fudd gwisgo esgidiau â gwadn rwber rhag ofn y cewch chi sioc drydan
    • Dysgwch yr hyn y dylech ei wneud mewn argyfwng. Cadwch ddiffoddwr tân yn y tŷ a pheidiwch byth â rhoi dŵr ar dân trydanol
    • Dylai person proffesiynol cofrestredig wneud tasgau sy'n ymwneud â nwy neu drydan
    • Wrth ddrilio neu roi hoelion mewn wal, gwnewch yn siŵr nad oes pibellau dŵr neu wifrau y gallwch eu torri yn y wal honno
    • Cynlluniwch y dasg yn ofalus cyn dechrau arno. Bydd hwn yn sicrhau na fyddwch yn brysio'r gwaith; gall hynny achosi damweiniau
  • Os ydych yn denant, dylech holi'ch landlord cyn cychwyn ar unrhyw waith DIY. Efallai y bydd eich contract yn dweud nad oes hawl gennych newid unrhyw beth yn y tŷ. Os oes problem gennych sydd angen ei thrwsio, siaradwch â'ch landlord yn gyntaf
  • Gall DIY fod yn beryglus ac achosir sawl damwain pan aiff tasgau DIY yn anghywir, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn y cyngor cywir cyn cychwyn ar dasg

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.