Gwybodaeth » Tai » Byw yn eich cartref newydd a'i gynnal » Yswiriant
- Pan fyddwch yn symud mewn i'ch cartref newydd, rhaid i chi gael yswiriant i ddiogelu chi'ch hunan a'ch eiddo
- Mae cost yswiriant yn dibynnu ar ba fath o dy sydd gennych a'i faint, ac ar le rydych yn byw
- Os oes cyfradd trosedd uchel yn eich ardal, gallech ddisgwyl i bremiwm eich yswiriant fod yn uwch
- Mae'n bosib y bydd modd i chi leihau cost eich yswiriant os oes cofnod 'dim hawliadau' ('no claims') gennych, larwm diogelwch neu ddyfais ddiogelwch sydd wedi'i gosod yn gywir, neu os ydych yn aelod o Gynllun Gwarchod y Gymdogaeth ('Neighbourhood Watch'). Mae'< r rhain yn lleihau'r risg y bydd angen i chi hawlio ar eich polisi yswiriant
- Mae dau brif fath o yswiriant: yswiriant adeilad ac yswiriant cynnwys
Yswiriant Adeilad
- Os oes gennych forgais am eich cartref, mae'r math hwn o yswiriant yn orfodol. Os ydych yn rhentu, mae'n rhaid bod yswiriant adeilad gan eich landlord
- Mae'r math hwn o yswiriant yn diogelu strwythur eich ty - gan gynnwys darnau gosod a gosodiadau - rhag difrod o ganlyniad i dân, llif dwr, storm ac ymsuddiant (pan all eich cartref gael ei effeithio gan y tir y mae wedi'i adeiladu arno)
- Dylai'r swm mwyaf y bydd eich yswiriwr yn ei dalu (y swm sicr) fod yn ddigon i dalu cost ail-adeiladu'ch cartref
- Gall rhai polisïau gynnwys difrod damweiniol, ond byddwch yn barod i dalu rhagor am hwn
Yswiriant Cynnwys
- Mae hwn yn diogelu eich dodrefn a'r eiddo yn eich cartref rhag lladrad, colled neu ddifrod. Awgrymir yn gryf i chi gael yswiriant cynnwys p'un ai eich bod yn berchen ar eich ty neu'n rhentu, ond nid yw hwn yn ofynnol
- Bydd y rhan fwyaf o bolisïau'n talu'r gost lawn o brynu dodrefn neu eiddo newydd
- Gall rhai polisïau ddiogelu rhag difrod damweiniol, gan gynnwys colled neu ddifrod i eitemau gwerthfawr fel gemwaith y tu mewn a'r tu allan i'ch cartref. Byddwch yn barod i dalu mwy am hwn
- Darllenwch y polisi'n ofalus oherwydd efallai y bydd rhai amgylchiadau lle na fydd yswiriant yn eich diogelu
- Wrth wneud cais am yswiriant bydd gofyn i chi ddarparu crynodeb o'r prif eitemau yn eich cartref y mae'n werth chweil eu hyswirio. Efallai bydd rhaid i chi yswirio eitemau drud, fel beic neu oriawr, ar wahân
- Awgrymir bod gennych dystiolaeth o'ch eiddo sydd wedi'i yswirio. Gallwch wneud hyn trwy gymryd llun neu ffilmio'r eitemau fel cofnod o'ch eiddo
- Ni chyfrifir gwerth sentimental. Caiff gwerth eich eitemau ei gyfrifo yn ôl eu gwerth ariannol
- Cofiwch adnewyddu eich yswiriant cynnwys bob blwyddyn. Cadwch gofnod o'ch eiddo rydych am ei yswirio er mwyn ei ychwanegu at eich polisi newydd a rhowch lun go iawn o'ch eiddo bob amser
- Bydd polisïau a phremiymau yn amrywio o un cwmni i'r llall felly porwch bob un ohonynt er mwyn cael y fargen orau a sicrhewch eich bod yn deall pob manylyn yn eich polisi, fel na fyddech yn cael eich siomi'n annisgwyl pan fydd rhaid i chi hawlio ar eich polisi. Cysylltwch â BIBA (isod) am gyngor




