Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Teithwyr

  • Mae gan deithwyr (neu sipsiwn) yr un hawliau â phawb arall. Yn syml, maen nhw'n dewis peidio â byw mewn tai 'confensiynol', ond mewn carafannau neu bebyll hyd yn oed
  • Caiff teithiwr ei ddiffinio fel person digartref os nad oes le ganddynt adael ei garafán yn gyfreithiol neu os nad oes le ganddynt fyw, fel pabell
  • Fel pawb arall, os oes gan deithiwr digartref angen blaenoriaethol (gwelwch yr adran Sut i osgoi mynd yn ddigartref am y meini prawf) ac nid yw'n ddigartref yn fwriadol, mae dyletswydd gyfreithiol gan yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety addas iddo
  • Os yw awdurdod lleol yn derbyn cais digartref gan deithiwr, rhaid iddynt asesu atgasedd y teithiwr tuag at dai confensiynol ac ystyried a allant wneud yn bosib iddynt fyw yn eu ffordd arferol trwy ddod o hyd i ddarn o dir iddynt. Dylai'r asesiad gynnwys ystyriaeth ddifrifol o'r holl dir sydd ar gael, nid tir y mae'r awdurdod lleol yn berchen arno yn unig
  • Cofiwch, mae gennych yr un hawliau â phawb arall felly ceisiwch gyngor arbenigwyr o'r ffynonellau isod os oes problemau gennych

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.