Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Bachgen yn gariad

  • Os oes gennych chi gariad, rydych chi mewn perthynas ramantus â rhywun, ac mae pob perthynas yn wahanol, a gall ‘perthynas ramantus’ olygu gwahanol bethau i wahanol bobl
  • Gall perthynas ramantus fod yn ddim mwy na threulio amser gyda’ch gilydd, mynd allan i leoedd gyda’ch gilydd, rhannu serch a siarad â’ch gilydd. Os ydych chi’n mwynhau treulio amser gyda’ch gilydd, efallai y byddwch chi’n cael eich hunain yn dod yn nes, ac efallai y bydd eich teimladau amdano’n cryfhau.  

Bod â bachgen yn gariad

  • Peidiwch â phoeni os yw’n edrych fel petai eich ffrindiau i gyd yn cael cariadon. Mae eich perthnasoedd chi yn bersonol i chi, felly peidiwch â theimlo eich bod dan bwysau i ddechrau perthynas gyda rhywun os nad ydych chi am wneud hynny neu os nad ydych chi’n teimlo’n barod.
  • Ar ddechrau perthynas, mae’n normal teimlo ychydig yn nerfus wrth feddwl am fod yn agos at rywun newydd. Ceisiwch ymlacio a chanolbwyntio ar yr agweddau ar y bachgen hwnnw sy’n gwneud ichi deimlo’n hapus
  • Nid yw bod â chariad yn golygu bod yn rhaid ichi gael rhyw. Mae pob perthynas yn wahanol, felly peidiwch â theimlo bod yn rhaid ichi gael perthynas rywiol os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus neu’n barod. Meddyliwch am sut y gallech chi deimlo petai’ch perthynas yn dod yn un rhywiol; a fyddai’n newid? Mae’r rhan fwyaf o bobl am fod mewn perthynas sefydlog, gariadus a pharhaol cyn y byddan nhw’n penderfynu cael rhyw.
  • Cofiwch: peidiwch â rhuthro i mewn i unrhyw beth os ydych chi’n ansicr.  Mae’ch perthynas chi yn bersonol i chi – mae gennych chi ddewis

Gall bechgyn fod yn ffrindiau hefyd!
Mae’n normal bod â bechgyn yn ffrindiau.  Dydy bod yn ffrindiau â bachgen ddim yn golygu ei fod yn gariad ichi

Mae bechgyn a merched yn wahanol

  • Mae merched yn aeddfedu’n gynt na bechgyn, felly mae’n bosib y bydd ganddyn nhw wahanol syniadau ynglŷn â beth y dylai cariad fod.
  • Mae cyfathrebu da yn allweddol i berthynas hapus – felly peidiwch â stopio siarad am sut rydych chi’n teimlo.

Eich ffrindiau

  • Pan fydd gennych chi gariad, mae’n bwysig peidio ag anwybyddu’ch ffrindiau. Wedi’r cwbl, maen nhw wedi bod yno ichi yn hirach na’ch cariad, ac os byddwch chi’n gwahanu, byddan nhw’n dal i fod yno ond efallai na fydd ef
  • Fe allech chi geisio cymdeithasu fel grŵp, ond os ydych chi’n treulio llawer o amser gyda’ch cariad a neb arall, cofiwch beidio â cholli cysylltiad â’ch ffrindiau.

Eich rhieni/ gwarcheidwaid

  • Efallai bod eich rhieni neu’ch gwarcheidwaid yn teimlo’n wahanol i chi am eich perthynas. Efallai nad ydyn nhw’n gyfforddus â’r ffaith bod gennych chi gariad am unrhyw nifer o resymau. Ymhlith y rhai cyffredin mae:
    • Rydych chi’n ‘rhy ifanc’
    • Mae ef yn ‘rhy hen’
    • Dydyn nhw ddim yn hapus bod rhywun yn treulio cymaint o amser gyda chi os nad ydyn nhw’n ei adnabod
    • Dydyn nhw ‘ddim yn ei hoffi’ neu maen nhw’n meddwl y gallwch chi wneud yn well
  • Efallai eich bod chi o’r farn eu bod nhw’n ymyrryd, ond meddwl am eich lles chi mae’ch rhieni/gwarcheidwaid
  • Gall fod o help siarad â’ch rhieni neu’ch gwarcheidwaid. Edrychwch am amser tawel pan fyddwch chi’n gallu trafod y sefyllfa gyda’ch gilydd yn ddigyffro
  • Efallai y byddai o help petai’ch rhieni neu’ch gwarcheidwaid yn dod i adnabod eich cariad. Er enghraifft, awgrymwch eich bod yn ei wahodd drosodd am bryd, neu’ch bod chi i gyd yn treulio ychydig o amser gyda’ch gilydd

4 CommentsPostiwch sylw

tommy b

tommy b

Rhoddwyd sylw 10 mis yn ôl - 1st July 2011 - 18:45pm

good advice :)

Toriabeth!

Toriabeth!

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 18th March 2012 - 11:02am

boys can be pressured into having sex too! I don't think this is depicted well here, and is a bit unfair! Although the rest is great! :)

CLICryan

CLICryan

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 19th March 2012 - 08:50am

Many thanks for the feedback - we are currently reviewing these info pages so your comment is very valuable Toriabeth! - much appreciated!

Toriabeth!

Toriabeth!

Rhoddwyd sylw 2 mis yn ôl - 19th March 2012 - 18:21pm

Well thank you Ryan! :P I just think equality is important!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.