Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Bod yn briod
- Mae priodi yn gam mawr mewn unrhyw berthynas, felly peidiwch â rhuthro i mewn i unrhyw beth.
- Yn gyfreithiol yn y DU, mae’n rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn gyda chaniatâd eich rhieni, neu’n 18 oed i briodi.
- Mae’n anghyfreithlon priodi yn y DU os ydych chi neu’ch partner dan 16 oed. Mae’n anghyfreithlon priodi os ydych chi a’ch partner o’r un rhyw, ond erbyn diwedd 2005 bydd cwpl o’r un rhyw yn gallu cofrestru partneriaeth sifil yn lle. Mae hefyd yn anghyfreithlon os ydych chi neu’ch partner eisoes yn briod.
- Nid oes unrhyw oed iawn i briodi. Bydd rhai pobl yn priodi’n ifanc tra bydd yn well gan eraill aros nes eu bod nhw’n hŷn.
- Bydd llawer o barau’n dewis byw gyda’i gilydd cyn priodi, neu efallai na fyddan nhw byth yn priodi ac yn parhau i gyd-fyw.
- Mae priodi yn golygu ymrwymiad tymor hir i rywun a chontract rhwng y pâr.
- Yn ôl y gyfraith, mae parau priod yn cael gwahanol ystyriaeth i barau sy’n byw gyda’i gilydd. Ystyrir priodas yn gontract rhwng dau o bobl, gan roi hawliau a chyfrifoldebau penodol iddyn nhw. Er enghraifft, mae’n rhaid iddyn nhw gefnogi ei gilydd yn ariannol yn ôl y gyfraith.
- Mae gan barau priod gyfrifoldeb ar y cyd am eu plant, cyn belled â’u bod wedi’u geni tra roedd y pâr yn briod. Fel arfer, nid oes gan dadau dibriod gyfrifoldeb rhieniol oni bai bod yna gytundeb sydd wedi’i lofnodi sy’n dweud i’r gwrthwyneb.
- Deuwriaeth neu ddwywreigiaeth yw’r enwau ar fod yn briod i ddau o bobl ar yr un pryd. Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU ond nid mewn rhai gwledydd eraill.
Seremonïau priodi
- Mae yna ddau fath o seremoni priodi:
- oGellir cynnal seremonïau crefyddol mewn eglwys, capel neu deml. Er mwyn priodi ynddyn nhw, fe fydd angen ichi gysylltu â’r sawl sy’n gyfrifol, er enghraifft y ficer mewn eglwys yr Eglwys yng Nghymru, i gael caniatâd. Yna byddan nhw’n trafod y trefniadau a’r gofynion â chi.
- oGellir cynnal seremonïau sifil mewn swyddfa gofrestru neu fannau eraill sydd wedi’u cofrestru ar gyfer priodasau, fel gwesty. Nid oes unrhyw gynnwys crefyddol yn y seremonïau yma. Bydd angen ichi gysylltu â chofrestrydd arolygu eich hardal os ydych chi’n dymuno priodi mewn seremoni sifil.
Priodasau wedi’u trefnu
- Mewn rhai diwylliannau, mae’n draddodiadol y bydd eich teulu yn dewis eich priod ar eich cyfer. Os byddwch chi’n gwrthod priodi bydd eich teulu yn ystyried eich bod chi’n dangos yr amarch mwyaf iddyn nhw.
- Mae hyn yn dal i ddigwydd mewn teuluoedd Indiaidd, boed yn y DU neu dramor.
- Ystyrir y briodas fel arfer yn gwlwm rhwng dau deulu yn hytrach na’r pâr yn priodi.
- I’r rheiny sy’n rhan o’r traddodiad yma ac sy’n byw yn y DU, fe all fod yn anodd ceisio byw gyda’r ddau ddiwylliant gwahanol.
- Os yw’ch teulu chi yn trefnu priodas ar eich cyfer a chithau’n poeni am hyn, rhowch gynnig ar siarad â nhw. Bydd rhai teuluoedd yn fodlon cyfaddawdu a gwneud yn siŵr eich bod chi’n hoffi’r sawl maen nhw wedi’i glustnodi ar eich cyfer cyn ichi briodi.
- Mae pob perthynas dda wedi’i seilio ar gyfeillgarwch, felly yn ddelfrydol fe fydd eich partner yn rhannu rhai o’ch diddordebau, yn gadael ichi fod yn annibynnol ac yn mwynhau eich cwmni.
Priodasau wedi’u gorfodi
- Bydd priodasau wedi’u gorfodi yn cael eu trefnu heb ganiatâd y pâr.
- Maen nhw’n anghyfreithlon yn y DU ond bydd rhai teuluoedd yn gorfodi eu plant i briodi dramor i osgoi hyn.
- Os ydych chi’n pryderu ynglŷn â hyn, mae yna help a chefnogaeth ar gael.
- Mae gennych chi hawl i beidio â chael eich gorfodi i briodi, ac mae yna amddiffyniad cyfreithiol ar eich cyfer.
- Cysylltwch â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael help; mae’r manylion isod.
Partneriaethau Sifil
- Er bod priodi rhywun o’r un rhyw yn anghyfreithlon yn y DU, o 5 Rhagfyr 2005 gall parau o’r un rhyw lunio partneriaeth sifil sy’n caniatáu cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u partneriaeth.
- Bydd parau sy’n ymrwymo i’r bartneriaeth yma’n cael statws cyfreithiol newydd fel ‘partneriaeth sifil’.
- Mae modd trefnu partneriaethau sifil yn eich swyddfa gofrestru leol.




