Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Byw gyda'ch gilydd

  • Mae mwy na 4 miliwn o barau ym Mhrydain yn byw gyda’i gilydd ar hyn o bryd.
  • Gall bod yn rhamantus ac yn gyffrous symud i mewn gyda’ch gilydd am y tro cyntaf, ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch hawliau rhag ofn y bydd pethau yn mynd o chwith rhwng y ddau ohonoch chi.
  • Gall rhannu tŷ neu fflat helpu perthynas i naill ai ffynnu neu fethu, felly byddwch yn sicr cyn y byddwch chi’n ymrwymo i fyw gyda’ch gilydd.
  • Mae’n hanfodol dod i adnabod eich gilydd yn dda yn gyntaf. Efallai eich bod chi’n meddwl ei bod yn syniad gwych byw gyda’ch gilydd, ond pa mor dda ydych chi’n cyd-dynnu nawr? A fyddwch chi’n dal i gyd-dynnu’n dda pan fyddwch chi’n rhannu’ch amser a’ch gofod â’ch gilydd?
  • Bydd angen ichi addasu eich dull o fyw os byddwch chi’n byw gyda’ch gilydd, felly cofiwch feddwl am sut bydd hyn yn effeithio ar y ddau ohonoch chi.
  • Cyn y byddwch chi’n symud i mewn gyda’ch gilydd, fe allai bod o help siarad am yr hyn rydych chi’n ei ddisgwyl oddi wrth eich gilydd.
  • Efallai y byddwch chi am drefnu beth y byddwch chi’n ei wneud ynglŷn ag arian, sut byddwch chi’n rhannu’r gwaith tŷ a sut byddwch chi’n gwneud amser i’ch gilydd cyn ichi benderfynu symud i mewn.
  • Un o’r pethau y mae parau sy’n ystyried byw gyda’i gilydd yn cael eu cynghori i’w wneud yw rhestru popeth o’u heiddo gan nodi pwy sy’n berchen ar beth. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer haws rhannu pethau os bydd perthynas yn dod i ben. Mae ffraeo ynglŷn ag eiddo yn un o’r prif resymau dros fynd i’r llys pan fydd perthynas yn chwalu.
  • Efallai y byddwch chi am agor cyfrif ar y cyd i dalu eich rhent neu’ch morgais, eich biliau a’ch siopa. Gall unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu drefnu hyn ar eich cyfer.

Prynu ynteu rhentu?

  • Os nad ydych chi wedi byw gyda’ch gilydd o’r blaen, efallai y byddwch chi am ddechrau drwy rentu rhywle i fyw am ychydig o fisoedd i gychwyn, am gyfnod prawf. Bydd hyn yn rhoi amser ichi benderfynu ai dyma’r peth iawn i’r ddau ohonoch chi ei wneud.
  • Os ydych chi’n meddwl prynu tŷ gyda’ch gilydd, mae yna lawer o bwyntiau pwysig y bydd angen ichi eu hystyried, p’un a ydych chi’n briod neu’n ddibriod. Bydd y cysylltau ar waelod y dudalen yn darparu ffynonellau gwybodaeth y gallwch chi eu defnyddio i gael cyngor cyfreithiol.
  • Os ydych chi’n ddibriod ac yn prynu tŷ gyda’ch gilydd, lle byddwch chi’ch dau yn cyfrannu at y morgais, gwnewch yn siŵr bod enwau’r ddau ohonoch chi ar y morgais.

Eich hawliau

  • Os ydych chi’n ddibriod ac yn byw gyda’ch gilydd, mae’r gyfraith yn eich trin fel dau unigolyn ar wahân heb unrhyw hawliau neu rwymedigaethau y naill i’r llall os bydd y berthynas yn chwalu.
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod gennych chi’r un hawliau â pharau priod os ydych chi wedi bod yn byw gyda’ch partner am ddwy flynedd neu fwy (priodas ’Cyfraith gyffredin’). Nid yw hyn yn gywir. Yn wir, ychydig iawn o hawliau sydd gennych chi.
  • Fe fydd yn rhaid i’r ddau ohonoch chi rannu’ch asedau, a gall hyn fod yn broses anniben ac emosiynol. Mae angen ichi gau cyfrifon ar y cyd, rhoi trefn ar y biliau a gwerthu’r tŷ, a bydd hyn yn aml yn gadael pobl yn agored i niwed. Er enghraifft, fe allai’ch partner gau eich cyfrif ar y cyd a mynd â’r holl arian heb eich caniatâd.
  • Efallai y byddwch chi am ystyried llunio Cytundeb Cyd-fyw neu Weithred Ymddiried i ddelio â’ch eiddo neu’ch trefniadau ariannol. Fodd bynnag, ni ellir gorfodi’r rhain bob amser. I gael mwy o wybodaeth, gwelwch: Cymdeithas Cyfraith Deuluol y Cyfreithwyr (SFLA) Ffôn: 01689 850227

1 CommentPostiwch sylw

DanieD

Rhoddwyd sylw 28 mis yn ôl - 1st February 2010 - 23:12pm

Despite the protests, nothing is probably going to stop people from living together before marriage, or at all. Since that has to be taken as fact (which it does) one then wonders what sort of legal protections are afforded unwed couples, and as it turns out, there are binding legal agreements called cohabitation agreements that people can enter into. Have them drafted by an attorney – it might require a payday loans worth, but a self drafted agreement won't likely hold up in court.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.